Mae cannoedd o bobol wedi bod yn gorymdeithio yn Llundain heddiw, er mwyn dangos gwrthwynebiad cyhoeddus i ymosodiadau awyr gan y Deyrnas Unedig yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (ISIS) yn Syria.

Fe ddaeth y rali ‘Stop The War’ ynghyd o flaen BBC Broadcasting House, a martsio i Stryd Downing.

Fe alwodd un siaradwr – a oedd am gael ei adnabod fel ‘Tony’ – y Prif Weinidog, David Cameron yn “ddieflig” ac yn “ddyn ddim yn gall” am fynnu dewis ffordd ymosodol o geisio cael y gorau ar derfysgwyr.

“Allwch chi ddim bomio eich ffordd i heddwch,” meddai Tony wrth y dorf.