Anjem Choudary
Mae’r llys wedi rhyddhau unwaith yn rhagor y pregethwr radical, Anjem Choudary, ar fechnïaeth amodol, wrth iddo aros i sefyll ei brawf. Mae wedi’i gyhuddo o ddefnyddio gwefannau cymdeithasol er mwyn annog pobol i gefnogi ISIS (y Wladwriaeth Islamaidd).

Mae’r gwr priod 48 oed, sy’n dad i bump o blant, wedi treulio’r pythefnos diwetha’ yn y carchar, wedi iddo dorri amodau llym ei fechnïaeth ar ol cael ei ryddhau ar Dachwedd 25.

Ond, yn dilyn dadlau cyfreithiol yn llys yr Old Bailey, fe ganiataodd y barnwr Mr Ustus Holroyde iddo gael ei ollwng yn rhydd eto ar fechnïaeth – dan yr un amodau ag a gafodd eu gosod gan Mr Ustus Saunders ym mis Medi eleni.

Fe fydd yn rhaid iddo, fodd bynnag, aros nes y bydd sicrwydd o £15,000 wedi’i roi, cyn y caiff ddychwelyd adref at ei wraig a’i blant.