Y difrod yn Carlisle wedi'r llifogydd
Mae cronfa gwerth £50 miliwn wedi cael ei sefydlu ar gyfer cartrefi a busnesau a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd diweddar.

Dywedodd y Canghellor George Osborne,  y byddai teuluoedd yn gallu hawlio hyd at £5,000 yr un i dalu am y difrod yn sgil Storm Desmond.

Bydd yr arian yn cael ei ddosbarthu gan gynghorau lleol i osgoi “problemau gweinyddol” a wnaeth arwain at oedi yn y broses o roi taliadau brys yn y gorffennol, meddai’r Canghellor wrth Dŷ’r Cyffredin heddiw.

Roedd George Osborne yn cymryd lle David Cameron yn sesiwn Gwestiynau’r Prif Weinidog wrth i Cameron deithio i Wlad Pwyl a Romania i gynnal trafodaethau ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd.

Daeth ei gyhoeddiad wrth i gymunedau sydd eisoes wedi cael eu heffeithio gan y llifogydd wynebu rhagor o law trwm.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd difrifol am law trwm a gwyntoedd cryfion  yng Ngogledd Lloegr a’r Alban, gyda’r posibilrwydd o wyntoedd yn hyrddio hyd at 70mya.

Mae ‘na rybudd o lifogydd difrifol yn ardal St Michaels yn Swydd Gaerhirfryn, sy’n nodi bod perygl i fywydau yno.

Mae tri pherson eisoes wedi cael eu lladd yn ystod y tywydd eithafol diweddar.