Yr Arglwydd Feldman
Mae pwysau o’r newydd ar gadeirydd y Blaid Geidwadol, yr Arglwydd Feldman i ymddiswyddo yn dilyn honiadau o fwlio o fewn y blaid.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod Feldman wedi derbyn ffeil yn 2010 oedd yn cynnwys honiadau o fwlio ymhlith aelodau iau’r blaid.

Un o’r bobol sydd wedi’i enwi yn y dystiolaeth yw Mark Clarke, ymgyrchydd a gafodd ei ddiarddel o’r blaid fis diwethaf pan ddaeth yr honiadau o fwlio i’r amlwg.

Mae Clarke wedi gwadu’r honiadau.

Ond mae’r Arglwydd Feldman yn mynnu nad oedd yn ymwybodol o’r honiadau am Clarke tan fis Awst eleni.

Daw’r honiadau ar ol i gorff yr ymchwilydd Elliott Johnson, 21, gael ei ddarganfod ar gledrau rheilffordd ym mis Medi.

Roedd yn aelod o fudiad Conservative Future a mis cyn ei farwolaeth, roedd yn honni ei fod e wedi cael ei fwlio.

Arweiniodd yr honiadau at ymchwiliad ac ymddiswyddiad cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr, Grant Shapps.

Mae tad Elliott, Ray Johnson yn galw unwaith eto ar yr Arglwydd Feldman i ymddiswyddo, gan feirniadu’r blaid am y ffordd y gwnaethon nhw ymdrin â marwolaeth ei fab.

Cefndir

 

Yn ôl rhaglen Newsnight y BBC, cafodd ffeil ei rhoi i’r Arglwydd Feldman gan Ben Howlett, sydd bellach yn aelod seneddol.

Derbyniodd yr Arglwydd Feldman a chyd-gadeirydd y blaid, y Farwnes Warsi gopi caled o’r dystiolaeth hefyd.

Mae’n honni bod cwynion wedi cael eu gwneud am ymddygiad Mark Clarke cyn 2010.

Dywedodd yr Arglwydd Feldman nad oedd yn ymwybodol o’r honiadau nac o ymddygiad rhywiol anweddus Clarke cyn mis Awst eleni.

Dywedodd fod y fath ymddygiad yn ei “ffieiddio” ac y byddai wedi ymateb ar unwaith pe bai’n ymwybodol o’r ffeithiau.

Mae’r aelod seneddol Llafur Jonathan Ashworth wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o beidio ymateb i’r pryderon am ymddygiad Clarke.

Dywedodd: “Ni ellir defnyddio ymddiswyddiad Grant Shapps i dynnu llinell o dan hyn – mae gan yr Arglwydd Feldman, y dyn a gafodd ei siarsio gan David Cameron i redeg y Blaid Geidwadol, gwestiynau mawr iawn i’w hateb o hyd.”