Senedd Holyrood
Mae ymgyrchwyr sy’n galw am ail refferendwm dros annibyniaeth i’r Alban wedi meddiannu Senedd y wlad.

Mae’r grŵp The People’s Voice wedi dweud na fyddan nhw’n gadael nes bod yr Alban yn cael ail refferendwm ond mae swyddogion Holyrood wedi dweud y byddan nhw’n wynebu camau cyfreithiol os na fyddan nhw’n gadael o fewn 48 awr.

Mae’r ‘gwersyll’ o bobl yno wedi tyfu wrth i garafanau a generaduron gyrraedd, ac yn ôl llefarydd ar ran Holyrood, maen nhw wedi cynnau tân yno.

Yno am ‘gyfnod amhenodol’

“Mae’r protestwyr wedi ei gwneud hi’n glir eu bod nhw’n bwriadu gwersylla yno am gyfnod amhenodol heb ganiatâd a dydyn nhw ddim am ystyried opsiynau eraill fel trefnu cyfres o brotestiadau un diwrnod y tu allan i’r adeilad,” meddai Paul Grice, prif weithredwr Senedd yr Alban.

Fe wnaeth y Senedd gyflwyno llythyr ffurfiol i’r protestwyr y prynhawn ‘ma yn dweud bod ganddyn nhw 48 awr i adael tir y Senedd gyda’u heiddo.

“Rydym yn gobeithio y bydd y protestwyr yn cydymffurfio â hyn ac mae staff y Senedd yn parhau i fod yn agored i drafod opsiynau eraill â’r grŵp i adael iddyn nhw fynegi eu barn tra’n sicrhau bod y tir ar gael i bobol eraill,” ychwanegodd Paul Grice.

“Fodd bynnag, os bydd y protestwyr yn gwrthod cydymffurfio o fewn yr amser sydd wedi’i roi, byddwn yn ceisio ateb drwy’r llysoedd i dynnu’r gwersyll (oddi ar y tir).”