Dave Lee Travis
Mae cyn-gyflwynydd Radio 1 wedi colli her yn erbyn dyfarniad o ymosod yn anweddus ar ferch.

Yn y Llys Apêl yn Llundain, fe wrthododd tri barnwr gais Dave Lee Travis i wyrdroi’r dyfarniad.

Cafwyd y cyn-gyflwynydd yn  euog y llynedd o gyffwrdd ymchwilydd ifanc y tu ôl i’r llenni yn ystod y rhaglen The Mrs Merton Show yn 1995.

Yn dilyn y dyfarniad, fe ddywedodd y cyn-gyflwynydd, 70 oed, a arferai gyflwyno Top of the Pops, ei fod yn teimlo “cywilydd” ac yn “siomedig iawn”.

Cafodd ei ddedfrydu i dri mis o garchar, wedi’i ohirio am ddwy flynedd, gan farnwr yn Llys y Goron Southwark, Llundain.

Roedd Travis yn bresennol yn y llys heddiw pan gafodd y penderfyniad i wrthod ei gais i apelio ei gyhoeddi. Fe benderfynodd tri barnwr nad oedd sail ddigonol i gynnal apêl.

‘Dinistrio ei yrfa’

Cafodd Dave Lee Travis, o Aylesbury, Swydd Buckingham ei arestio ym mis Hydref 2012 fel rhan o Operation Yewtree, ymchwiliad Scotland Yard i achosion hanesyddol o gam-drin rhywiol yn sgil honiadau yn erbyn y diweddar Jimmy Savile.

Fe glywodd y rheithgor ei fod wedi ymosod ar yr ymchwilydd ar un o goridorau stiwdios y BBC lle’r oedd hi’n ysmygu ar y pryd.

Clywodd y llys ei fod wedi gwneud sylwadau am “ei hysgyfaint truenus” ac wedi gwasgu ei bronnau am 10 i 15 eiliad.

Fe ddywedodd ei gyfreithiwr Stephen Vullo QC, fod y digwyddiadau yn dilyn arestio Dave Lee Travis wedi “dinistrio ei yrfa,  a’i enw da ac wedi niweidio ei gynilion y tu hwnt i’w hadfer.”

‘Taflu baw’

Y tu allan i’r llys heddiw fe ddywedodd Dave Lee Travis: “Wrth gwrs, dw i wir, wir yn siomedig – sydd siŵr o fod yn dan-osodiad y ganrif.”

“Rwy’n siŵr y bydd yr Heddlu Metropolitan yn teimlo rhyddhad heddiw,” ychwanegodd.

“Fe lwyddon nhw, ynghyd a Gwasanaeth Erlyn y Goron, i daflu mwy o faw ata’ i dros y tair blynedd ddiwethaf na allai neb ei ddychmygu,” meddai.

Fe ddywedodd na allai dderbyn y canlyniad a’i fod yn “cytuno gyda’r gyfraith, ond dw i wedi colli llawer o barch at y gyfraith nawr.”