Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cyflwyno newidiadau i wasanaeth unedau mamolaeth gogledd Cymru.

Fe gyfarfu’r Bwrdd y bore yma i drafod adroddiad a ddaeth i law’r wythnos diwethaf yn galw arnyn nhw i beidio ag israddio’r gwasanaeth mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.

Bellach, mae’r Bwrdd wedi derbyn yr argymhellion, ac wedi cadarnhau na fydd newidiadau ar hyn o bryd i wasanaethau obstetreg yng ngogledd Cymru.

Yn ogystal, mae’r Bwrdd wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi mwy o staff arbenigol i gynnal y gwasanaeth.

‘Cynllunio i’r dyfodol’

Roedd y Bwrdd wedi ystyried ad-drefnu’r gwasanaethau mamolaeth, a fyddai wedi israddio’r gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd, gan olygu y byddai’n rhaid i ferched beichiog â chymhlethdodau deithio i Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.

Ond, fe fu ymateb chwyrn i’r cynlluniau hyn, ac yn ystod mis Awst a Medi eleni fe gynhaliwyd cyfnod o ymgynghori ar y cynllun.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd fod yr ymgynghoriad wedi “denu miloedd o ymatebion,” ac y gallai’r wybodaeth eu helpu “i gynllunio at y dyfodol.”

“Er nad oes angen newidiadau yn y fan a’r lle mwyach, mae angen i ni sicrhau y bydd gwasanaethau merched a mamolaeth ar draws Gogledd Cymru yn sefydlog ac yn gynaliadwy yn y tymor hir,” meddai’r llefarydd.

Am hynny, mae’r Bwrdd wedi gofyn am gydweithrediad Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr, ac yn disgwyl adroddiad oddi wrthyn nhw ddechrau’r flwyddyn am ffyrdd i ddatblygu eu gwasanaeth.

Penodiadau newydd

Mae’r Bwrdd wedi cyhoeddi eu bod wedi recriwtio staff ychwanegol i’r gwasanaeth, a hynny yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

Maen nhw wedi penodi saith meddyg ymgynghorol ychwanegol a fydd yn gweithio fel meddygon gradd ganol, ynghyd â 27 o fydwragedd.

Fe ddywedodd y llefarydd fod hyn yn golygu “bod ein gwasanaethau bydwreigiaeth yn bodloni argymhellion offeryn cynllunio gweithlu cenedlaethol Birth Rate Plus.”

‘Buddugoliaeth i synnwyr cyffredin’

Mae Darren Millar, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r penderfyniad gan ddweud ei bod yn “fuddugoliaeth i synnwyr cyffredin.”

“Mae wedi bod yn gyfnod ansefydlog i staff, merched beichiog a’u teuluoedd ac rwy’n falch ein bod ni’n gallu rhoi’r mater o’r neilltu o’r diwedd.”

Fe ddywedodd ei bod hi’n “hollol angenrheidiol” i Weinidogion Llafur wireddu eu haddewid yn awr i sefydlu Canolfan Gofal Dwys Newydd-anedig yng Ngogledd Cymru.

‘Sicrwydd’

Mewn ymateb i benderfyniad y Bwrdd heddiw, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod gan “y cyhoedd, menywod beichiog a chleifion sicrwydd ynghylch y dyfodol agos yn awr.”

Er hyn, ychwanegodd fod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i “wynebu heriau” ond eu bod wedi gwneud “cynnydd go iawn” ers i’r Llywodraeth eu gosod o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin.

Fe ddywedodd fod Llywodraeth Cymru “yn glir ei chefnogaeth” ac wedi neilltuo £1.4m i ddatblygu’r Ganolfan Gofal Dwys Newydd-anedig yng Ngogledd Cymru.

Ychwanegodd hefyd fod y broses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr parhaol i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn mynd rhagddo, gyda’r cyfweliadau i’w cynnal y mis hwn.