Mae pôl piniwn newydd yn dangos bod pobol Cymru ar y cyfan yn anfodlon â pherfformiad Llywodraeth Cymru o ran y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ysgolion ac economi’r wlad.
Gwasanaeth Iechyd Cymru yw’r maes lle mae pobol yn fwyaf anfodlon mewn arolwg gwleidyddol a gomisiynwyd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ac ITV Cymru.
Roedd y pôl piniwn a gynhaliwyd gan YouGov yn gofyn i bobol a oedden nhw’n meddwl bod y Llywodraeth wedi gwneud yn dda neu’n wael yn y tri maes polisi gwahanol ers etholiad diwethaf y Cynulliad yn 2011.
Canlyniadau ‘negyddol’
Mae’r canlyniadau’n dangos mai 25% o’r 1,005 o bobol a holwyd oedd yn credu bod y llywodraeth yn gwneud yn dda o ran y Gwasanaeth Iechyd, o gymharu â 46% oedd yn credu ei bod yn gwneud yn wael.
27% oedd yn hapus ag ysgolion y wlad, gyda 28% yn anhapus. Ac roedd 25% yn fodlon â’r ffordd mae’r llywodraeth yn rheoli’r economi o gymharu â 29% oedd yn anfodlon.
“Nid yw mwyafrif clir o’r bobol sydd wedi ymateb i’w gweld yn hapus iawn gyda record y Llywodraeth mewn unrhyw un o’r tri maes, sydd siŵr o fod y rhai pwysicaf o dan ei chyfrifoldeb,” meddai’r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
“Ac ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae’r farn yn ymddangos i fod yn negyddol iawn.”
Cymru’n gwneud yn well na Lloegr
Er hyn, fe wnaeth y pôl gymharu’r canlyniadau i astudiaeth oedd yn gofyn yn union yr un cwestiwn yn Lloegr, ac mae’n ymddangos bod Cymru’n gwneud yn well o ran y Gwasanaeth Iechyd ac addysg.
51% oedd yn anfodlon â pherfformiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ran y Gwasanaeth Iechyd, gydag 19% yn unig yn fodlon. Ac roedd 37% yn anhapus â’u hysgolion, gyda 24% yn fodlon.
Mae’r stori ychydig yn wahanol ar gyfer economi’r ddwy wlad, gyda phobol Lloegr yn hapusach o lawer â record ei llywodraeth yn y maes hwnnw – 44% yn fodlon a 32% yn anfodlon.
Mae’r canlyniadau hefyd yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwella rhywfaint o ran ei pherfformiad y llynedd, gyda bodlonrwydd gydag ysgolion yn gwella 14% ar y cyfan a bodlonrwydd gyda’r economi yn gwella 2%.
Ond stori arall oedd hi gyda’r Gwasanaeth Iechyd, wrth i fodlonrwydd y cyhoedd ostwng 3% ers y llynedd.
“Mae’r ffigurau (hyn), byddem yn awgrymu, yn gosod golau tipyn yn fwy cadarnhaol ar sgôr perfformiad Llywodraeth Cymru,” meddai’r Athro Roger Scully.
“Nid yw barn y cyhoedd ar record y llywodraeth ar Wasanaeth Iechyd Cymru yn dda iawn, ac mae’n ymddangos ei fod wedi gostwng ychydig ers dechrau’r flwyddyn y llynedd. Ond mae’r farn gyhoeddus yn dal i fod yn sylweddol gwell na’r un ar reolaeth llywodraeth y DU ar y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae gan bobol yr hawl i ofyn llawer o’u gwasanaethau cyhoeddus – rydym ni hefyd,” meddai llefarydd ar ran Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.
“Dyna pam bod ein harian ychwanegol i ysgolion a’r gwasanaeth iechyd yn dod ag agenda i newid – ac rydym wed gweld proses calonogol. Eleni, fe gawsom ein canlyniadau TGAU gorau erioed ac mae ein Gwasanaeth Iechyd yn trin pobol yn gynt nag erioed.”