Mae trigolion lleol Bangor wedi bod yn mynegi eu gwrthwynebiad i gynllun dadleuol i godi 366 o dai yn ardal Pen-y-ffridd yn y ddinas, cyn i Gyngor Gwynedd drafod y cais ddydd Llun nesaf, 14 Rhagfyr.
Mae’r cwmni datblygu Morbaine Cyf o Swydd Gaer yn gobeithio adeiladu’r tai ar safle 35 acer yn ardal Penrhosgarnedd, rhwng Ysbyty Gwynedd a Ffordd Caernarfon.
Mewn adroddiad i’r pwyllgor cynllunio mae swyddogion y cyngor wedi argymell y dylid caniatáu’r cynlluniau, gydag amodau yn cynnwys ei fod yn cael ei adeiladu’n raddol a bod 30% o’r tai yn rhai fforddiadwy.
Ond mae nifer o bobol leol yn gwrthwynebu’r cynllun, gan ddweud y byddai’n gwanhau sefyllfa’r Gymraeg yn y ddinas.
Mewn llythyr at aelodau pwyllgor cynllunio Gwynedd, mae Howard Huws yn dweud bod “maint, graddfa a lleoliad y cynllun yn golygu y bydd yn fygythiad i gydlyniad cymdeithasol, ieithyddol a diwylliannol cymunedau cyfagos.”
Yn ôl Howard Huws, dydy’r cyngor heb ystyried y galw lleol, gan fod ‘digon o dai ar werth neu ar osod’ ym Mangor yn barod, a bod cynlluniau Prifysgol Bangor i adeiladu llety myfyrwyr newydd yn golygu y bydd ‘llai fyth’ o alw.
‘Datblygu ar gyfer coridor yr A55’
“Ni seiliwyd y datblygiad ar unrhyw arolwg cynhwysfawr o’r angen am dai ym Mangor. Y mae’n ddatblygiad masnachol pur, gyda golwg ar sefydlu pentref cymudwyr o fewn cyrraedd yr A55. Nid yw ar gyfer pobl leol,” meddai’r llythyr.
Ac mae ysgrifennydd Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn yn ategu hyn gan ddweud mai, “nid darparu ar gyfer pobol Bangor ond datblygu ar gyfer coridor yr A55”, bydd y datblygiad yn ei wneud.
Dywedodd fod caniatáu datblygiadau tai sy’n ‘amlwg yn rhy fawr’ yn tanseilio polisïau sy’n gefnogol i’r Gymraeg mewn meysydd eraill gan y Cyngor.
“Os ydach chi’n gor-ddarparu, rydach chi’n denu mewnlifiad Saesneg ac mae’r Cyngor Sir yn cydnabod ei hun mai’r bygythiad mwyaf i’r Gymraeg yng Ngwynedd ydy’r mewnlifiad.”
Y datblygiad ‘ddim yn debygol o fod yn andwyol’
Yn eu hadroddiad, mae swyddogion Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd yn dweud na fyddai’r datblygiad “yn debygol o achosi tyfiant sylweddol yn y boblogaeth a all effeithio’n andwyol ar yr iaith Gymraeg”.
Fel sy’n cael ei nodi, mae hyn oherwydd bod Bangor yn boblog, bod canran uchel o fyfyrwyr (di-Gymraeg) yno a bod canran siaradwyr Cymraeg Ward Dewi yn gymharol isel.
Ond maen nhw’n cydnabod y gall fod “potensial y byddai’r tai yn cael eu prynu gan weithwyr di-Gymraeg Ysbyty Gwynedd neu’r Brifysgol”.
Yn ôl Howard Huws, mae’r Gwasanaeth Cynllunio yn dweud “nad yw o bwys os yw Bangor yn Seisnigo rhagor, ac nad ydynt, felly, yn pryderu ynghylch gorddarparu tai, gan fod denu mewnlifiad yn rhan o’r diben.”
Effaith ar y Gymraeg yn yr ysgolion?
Mae hefyd wedi codi pryderon y gall dylanwad y mewnlifiad o blant o gartrefi di-Gymraeg droi iaith y buarth yn Saesneg ac y byddai hynny’n “tanseilio ymdrechion y Cyngor” a’i siarter iaith ysgolion sy’n annog disgyblion i siarad Cymraeg tu hwnt i waliau’r ystafell ddosbarth.
“Y ddamcaniaeth ydy bod plant yn mynd i mewn i’r system addysg yn ddi-Gymraeg ac yn dod allan yn siarad Cymraeg, bysa’n wych ond dydy hynny ddim yn wir,” meddai Howard Huws wrth golwg360, gan ddweud y byddai iaith gymdeithasol y plant yn troi o’r Gymraeg i’r Saesneg.
I’r gwrthwyneb, mae adroddiad yr adran gynllunio yn nodi y gallai’r datblygiad ddenu mwy o siaradwyr Cymraeg i’r ardal gan y byddai mwy o blant yn mynd i’r ysgolion Cymraeg.
“Dylai cynnydd yn nifer o ddisgyblion gael effaith bositif ar y Gymraeg gan y byddent yn cael eu haddysg drwy’r Gymraeg,” meddai’r adroddiad.
Er mae’n cydnabod, “Ar y llaw arall, mae potensial i ddefnydd o’r iaith ar yr iard leihau gyda’r cynnydd o ddisgyblion gyda Saesneg fel eu hiaith gyntaf.”
Mae disgwyl i ymgyrchwyr fod yn bresennol y tu allan i’r cyfarfod ddydd Llun i ddwyn pwysau ar y cynghorwyr.