Bydd deiseb sy’n galw am ddiogelu a pharchu enwau lleoedd Cymraeg yn cael ei hystyried ymhellach gan Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad heddiw.
Mae’r ddeiseb gan grŵp Mynyddoedd Pawb, sydd wedi cael 1,026 o lofnodion, yn galw ar Lywodraeth Cymru i “ddarbwyllo cyrff a sefydliadau i ddiogelu a pharchu ein cyfoeth o enwau lleoedd.”
Mewn llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, William Powell AC ar y mater, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ei fod yn derbyn bod enwau lleoedd Cymraeg yn ‘adnoddau pwysig o ran adnabod a rheoli ein hasedau hanesyddol.’
Nododd hefyd fod gwelliannau wedi cael eu cymeradwyo i’r Bil Amgylchedd Hanesyddol a fydd yn rhoi cyfrifoldeb ar Weinidogion Cymru i greu a chadw rhestr o enwau lleoedd hanesyddol yng Nghymru gan sicrhau bod y rhestr ar gael i bobol ei gweld pe bai angen.
Er bod ymgyrchwyr Mynyddoedd Pawb yn croesawu ei sylwadau, dywedodd y grŵp hefyd ei fod yn “siomedig nad oes yma ymgais i fynd i’r afael â’r patrwm sy’n datblygu’n gynyddol o roi enw ar fusnes a fyddai ymhen amser yn debygol iawn o newid enwau llafar y lleoliadau.”
Enghraifft ‘Wynnborn’
Enghraifft ddiweddar o newid enw lle, oedd y ffrae tros newid enw Plas Glynllifon ger Caernarfon i Wynnborn ar ddeunydd marchnata.
“Mae hwn yn adeilad hanesyddol a restrwyd yn Gradd 1 gan Cadw. Mae’n ddiffyg mawr yn y system restru bod yr adeilad yn cael ei amddiffyn ond nid ei enw,” meddai Mynyddoedd Pawb.
Mae deiseb Mynyddoedd Pawb yn nodi y byddai sicrhau deddfwriaeth i beidio â newid enwau lleoedd yn ‘ysgogi parch a diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac yn sicrhau a chynyddu’r defnydd ohoni’.
Mae’r ddeiseb hefyd yn galw am gydweithio â chanolfannau awyr agored er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o enwau lleoedd traddodiadol brodorol a dod ag enwau lleoedd traddodiadol dan reolaeth gynllunio’r llywodraeth.
Rhai enghreifftiau o newid enwau lleoedd yn answyddogol gan dwristiaid
Llyn Bochlwyd, Conwy – “Australia Lake”
Tryfan, Eryri – “Triffim”
Bwthyn Ogwen, Nant Ffrancon – “Oggy Cottage”
Tyntywyn, Ynys Môn – “Bog blog beach”
Traeth Llydan, Ynys Môn – “Broad beach”