Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd
Mae uned ar gyfer babanod newydd-anedig yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi gorfod cau i gleifion newydd oherwydd haint.

Nid yw’r uned wedi derbyn unrhyw gleifion newydd ers yr wythnos diwethaf.

Fe fu’n rhaid i’r uned gau ym mis Awst eleni hefyd, wedi i 12 o fabanod gael eu heintio, ac fe ail-agorodd yr uned rai wythnosau’n ôl.

Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro bryd hynny eu bod wedi cymryd camau brys a bod mesurau mewn lle i atal heintiau.