Mae pryder am ddyfodol elusen fwyaf Cymru sy’n amddiffyn hawliau pobol anabl ar ôl iddi gyhoeddi y bydd yn colli 68% o’i hincwm gan Lywodraeth Cymru o fis Ebrill 2016 ymlaen.

Fe wnaeth y llywodraeth wrthod cais Anabledd Cymru i’r cynllun grantiau gwasanaethau cymdeithasol trydydd sector, ac oherwydd hyn gall yr elusen gau o fewn pedwar mis.

Mae’r elusen wedi cael cyllid gan y llywodraeth ers ei sefydlu yn 1972 ond yn dilyn newid diweddar i’r ffordd y mae’r llywodraeth yn rhoi grantiau i gyrff trydydd sector, mae Anabledd Cymru yn dweud bod y meini prawf newydd yn golygu nad ydyn nhw’n gymwys am grant rhagor.

“Roedd ffocws culach y grant ym maes darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn golygu nad oedd Anabledd Cymru bellach, fel corff ymbarél hawliau a chydraddoldeb, yn diwallu’r meini prawf cyllid,” meddai Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru.

Yn ôl yr elusen, mae’r arian roedden nhw’n ei gael yn golygu bod y corff wedi llwyddo i gael dylanwad ar faterion polisi, fel byw’n annibynnol, troseddau casineb a mynediad i’r stryd fawr, a darparu cymorth a gwybodaeth ar gyfer pobl anabl ar draws y wlad.

Roedd hi hefyd yn “cynrychioli barn ei haelodau gyda’r nod o hysbysu a dylanwadu ar bolisïau’r llywodraeth.”

“Ergyd drom”

“Mae colli cyllid craidd Llywodraeth Cymru yn ergyd drom iawn, yn arbennig ar gyfnod pan mae pobl anabl, sy’n cynrychioli 20% o boblogaeth y wlad, yn wynebu toriadau i fudd-daliadau a gwasanaethau,” meddai Wendy Ashton, cadeirydd Anabledd Cymru.

 

“Yn ei araith i gynhadledd flynyddol Anabledd Cymru ar 8 Hydref, fe wnaeth y gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yr Athro Mark Drakeford AC dalu teyrnged i ‘effaith’ Anabledd Cymru ar y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles newydd.”

Yn ôl yr elusen, mae pobl anabl yn cynrychioli 20% o boblogaeth y wlad ac maen nhw’n wynebu lefelau tlodi uwch nag unrhyw grŵp arall o bobl sydd â nodweddion wedi’u diogelu.

Dywedodd Simon Green, ymgyrchydd anabl a chadeirydd Clymblaid Pobl Anabl Penybont, ac aelod o Anabledd Cymru, wrth siarad am effaith cau’r elusen,

“Rwy’n credu bydd yn cael effaith enfawr nid yn unig ar Anabledd Cymru ond ar bob grŵp mae’n cynrychioli, yn cynnwys Clymblaid Pobl Anabl Penybont. Rydym wedi elwa o fod yn aelod o’r corff cenedlaethol am sawl blwyddyn ac yn wir heb Anabledd Cymru mae’n debyg na fyddem yn bodoli.”

Angen “ymateb brys”

Bydd yr elusen nawr yn trafod cael pecyn cymorth byr dymor gyda Llywodraeth Cymru, wrth ystyried ateb mwy hir dymor i’r sefyllfa, ond mae’r corff wedi rhybuddio bod angen “ymateb brys” arnyn nhw wrth nesáu at y Nadolig a diwedd y flwyddyn ariannol.

“Ar ôl dros 40 blynedd fel llais cenedlaethol, mae llai na phedwar mis gennym i ddiogelu dyfodol Anabledd Cymru. Pwy fydd yn brwydro dros hawliau pobl anabl os na fydd y corff yn bodoli?,” ychwanegodd Rhian Davies.

“Cyfnod anodd i bawb”

Wrth ymateb i bryderon Anabledd Cymru, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: “Rydym yn gweithio gydag Anabledd Cymru i weld sut gallwn helpu’r sefydliad i reoli’r newid i ariannu ac i sicrhau dyfodol cynaliadwy.

“Mae hwn yn gyfnod anodd i bawb yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol wrth i ni ymdopi â chyllidebau llai.”