Llys y Goron Caerdydd
Mae myfyriwr 23 oed sydd wedi ei gyhuddo o geisio treisio merch 19 oed mewn parc yng Nghaerdydd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Fe fu Khalid Alahmadi, o Deras Biwt, Caerdydd gerbron Llys y Goron Caerdydd bore ma yn dilyn honiadau ei fod wedi ceisio treisio’r ferch yng Ngerddi’r Orsedd yn oriau man 23 Medi.
Cafodd Alahmadi ei ryddhau ar fechnïaeth ar yr amod ei fod yn byw yng nghartref ffrind agos i’r teulu yn ardal Reading.