Fe fydd gweithwyr gyda chwmni cynnal a chadw trenau o Gaer yn mynd ar streic ddiwedd yr wythnos hon.

Mae cwmni Alstom o Gaer yn gyfrifol am gynnal a chadw trenau  ar gyfer Trenau Arriva Cymru.

Ond, mae aelodau o undeb RMT sy’n gweithio i’r cwmni peirianyddol wedi bod mewn anghydfod â’r cwmni ynglŷn ag amodau gwaith a chyflogau.

Fe fyddan nhw’n dechrau’r streic am 7yb dydd Iau, ac mae’n debygol o barhau am 24 awr.

Er hyn, fe ddywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru na fyddai’r streic yn debygol o effeithio ar wasanaethau trenau yng Nghymru.

“Mae’r streic yn digwydd gan aelodau o drydydd parti, felly dy’n ni ddim yn disgwyl unrhyw ymyrraeth,” meddai llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru.

‘Gwrthod gwrando’

Fe ddywedodd ysgrifennydd cyffredinol RMT, Mick Cash, fod yr undeb wedi ceisio dod i gytundeb â’r cwmni, ond “mae Alstom wedi gwrthod gwrando, ac o ganlyniad, mae’r gweithredu yn parhau’r wythnos hon.”

“Mae’n ddealladwy fod ein haelodau yn ddig am eu bod yn parhau i weithio dwy awr yr wythnos yn fwy na’u cydweithwyr sy’n gwneud yr un gwaith ar West Coast, ac eto ddim yn cael eu talu ddigon am y gwaith maen nhw’n ei wneud.

“Mae’r RMT yn disgwyl cefnogaeth gadarn gan ein haelodau ar gyfer y gweithredu ac mae’r undeb yn barod i drafod.”