Oscar Pistorius
Fe fydd yr athletwr Paralympaidd, Oscar Pistorius, yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth iddo aros i gael ei ddedfrydu am lofruddiaeth, yn ôl Barnwr o Dde Affrica.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth Goruchaf Lys Apêl De Affrica ddyfarnu bod yr athletwr yn euog o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp yn 2013.
Fe wnaeth hynny wyrdroi’r dyfarniad gwreiddiol o ddynladdiad.
Mae’r Barnwr yn y Llys Apêl yn Pretoria, Aubrey Ledwaba, wedi caniatáu i Oscar Pistorius gael ei ryddhau ar fechnïaeth o $692 (£460).
Fe fydd yn treulio cyfnod wedi’i gyfyngu yn nhŷ ei ewythr nes y bydd ei wrandawiad yn cael ei gynnal ar Ebrill 18, 2016.
Fe ddywedodd y Barnwr y bydd Oscar Pistorius yn cael ei roi o dan oruchwyliaeth electronig, a dim ond rhwng 7yb a 12yp y bydd yn cael gadael y tŷ.
Fe ddywedodd y cyfreithiwr sy’n ei amddiffyn, Barry Roux, fod ei gleient yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad yn y Llys Cyfansoddiadol.