Alexander Bone, o Landudno
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth am ddyn o Landudno sydd wedi bod ar goll ers deuddydd.

Nid yw Alexander Bone, 48 oed, wedi cael ei weld ers dydd Sul, Rhagfyr 6.

Fe gafodd ei weld diwethaf tua 11yb ddydd Sul yn ardal Craig y Don, Llandudno. Roedd yn gwisgo siaced ddu, jîns glas, ac esgidiau rhedeg gwyn.

“Mae Alexander Bone rhwng 5’8 a 5’10 o daldra, gyda chorff main a gwallt llwyd,” yn ôl y Rhingyll Lee Openshaw o orsaf yr Heddlu Llandudno.

Mae’r Heddlu yn galw ar unrhyw un sydd wedi gweld Alexander Bone, neu’n gwybod am ei leoliad, i gysylltu â’r heddlu am eu bod nhw’n bryderus am ei les.

“Rwy’n gofyn hefyd i Alexander Bone ei hun, os yw’n bosib, i gysylltu â’r heddlu, teulu neu ffrindiau i ddweud ei fod yn ddiogel ac yn iawn,” meddai’r Rhingyll Lee Openshaw.

Mae’r Heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Alexander Bone i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 14515. Fel arall, gellir cysylltu’n uniongyrchol â’r ystafell reoli drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru.