Mae disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi penderfyniad terfynol heddiw ynglŷn â dyfodol gwasanaethau mamolaeth yng ngogledd Cymru.
Fe fydd y Bwrdd yn cyfarfod i drafod yr Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y cynlluniau i israddio’r gwasanaeth mamolaeth yn un o’r tri ysbyty yn y gogledd.
Ond, fe fyddan nhw hefyd yn trafod adroddiad a ddaeth i law yr wythnos diwethaf yn galw arnyn nhw i atal y cynlluniau gan beidio â newid y drefn bresennol.
‘Ymateb chwyrn’
Mae’r Bwrdd wedi bod yn ystyried ad-drefnu’r gwasanaethau mamolaeth yn y gogledd ers dechrau’r flwyddyn.
Eu bwriad oedd israddio’r gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan gan olygu mai bydwragedd yn hytrach na meddygon fyddai’n gyfrifol am yr uned honno.
O ganlyniad, dim ond merched â risg isel fyddai’n mynd yno, a byddai merched â chymhlethdodau yn mynd i Ysbyty Gwynedd ym Mangor neu Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ond, fe fu ymateb chwyrn i’r cynlluniau gyda nifer yn protestio ac yn dadlau y byddai teithio ymhellach yn creu peryglon a chymhlethdodau.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, fe gyflwynwyd adroddiad i’r Bwrdd ddechrau Rhagfyr yn argymell na ddylid israddio’r unedau mamolaeth.
Mae disgwyl i’r Bwrdd hefyd drafod heddiw adroddiad sy’n dweud bod cost meddygon dros dro yng Nghymru ar gynnydd.