Gwirfoddolwyr RNLI o Gymru yn Cumbria
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn “edrych eto” ar amddiffynfeydd llifogydd yn dilyn y difrod o achoswyd i filoedd o gartrefi yng ngogledd Lloegr gan Storm Desmond.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi bod yn ymweld â’r ardaloedd gafodd eu heffeithio waethaf yn Cumbria heddiw, yn sgil beirniadaeth bod amddiffynfeydd, a oedd wedi costio £45miliwn, wedi methu a chadw’r dŵr allan o gartrefi pobl.

Mae’r Blaid Lafur wedi cyhuddo David Cameron o “dorri addewidion” ynglŷn â gwariant ar amddiffynfeydd, gan ddweud bod £115 miliwn wedi cael ei dorri o gynlluniau rheoli llifogydd yn y flwyddyn ddiwethaf.

Bu David Cameron yn cynnal cyfarfod o bwyllgor brys Cobra bore ma i drafod ymateb y Llywodraeth i’r argyfwng wrth i ogledd Lloegr a’r Alban baratoi ar gyfer rhagor o law trwm.

Dywedodd y bydd cynghorau yn cael eu had-dalu am y gost o ddelio gyda’r llifogydd.

Tynnu corff dyn o afon

Mae timau achub wedi tynnu corff dyn o’r dŵr yn ardal Kendal yn Cumbria yn dilyn adroddiadau bod dyn oedrannus wedi syrthio i Afon Caint fore dydd Sul.  Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn.

Cafodd mwy na 4,000 o gartrefi a busnesau eu heffeithio gan y llifogydd yn y sir a bu bron i 60,000 o gartrefi heb drydan drwy’r dydd ddoe.

Dywedodd cwmni Electricity North West bod tua 2,685 o dai yn Cumbria yn dal i fod heb gyflenwad trydan ddydd Llun oherwydd problemau yn sgil y llifogydd.

Yn Carlise, bu aelodau’r fyddin yn helpu’r gwasanaethau brys i symud pobl o’u cartrefi. Mae tua 40 o ysgolion ynghau a nifer o apwyntiadau ysbyty wedi cael eu canslo.

Gwirfoddolwyr o Gymru

Mae timau achub o bob rhan o Gymru wedi ymuno â’r gwasanaethau brys yng ngogledd Lloegr i ymateb i’r llifogydd yn Cumbria.

Mae tua 20 o wirfoddolwyr yr RNLI o Gymru wedi teithio i Cumbria, gan gynnwys aelodau o RNLI  Moelfre, Rhyl, Aberystwyth, Biwmares, Cricieth, Pwllheli, Abersoch, Penarth, Porthcawl, Dociau’r Barri a Phort Talbot.

Ddoe, fe wnaeth y gwirfoddolwyr helpu i achub preswylwyr oedrannus o gartref yr henoed yng Nghaerliwelydd.

Roedd angen symud tua 15 o breswylwyr a 5 o ofalwyr o’r cartref, wedi i’r llifogydd achosi difrod gan ddiffodd y trydan.

‘Torcalonnus’

“Fel tîm, ry’n ni wedi achub cannoedd o bobl, rhai yn oedrannus, yn ofnus ac yn oer, ond fe lwyddon ni i ddod â nhw i ddiogelwch,” meddai Callum Robinson o RNLI y Rhyl.

Doedd Chris Missen o RNLI Porthcawl, ddim wedi gweld “dim byd tebyg i’r amodau yn Cumbria.”

“Mae’n dorcalonnus i weld beth sydd wedi digwydd i gartrefi pobl, yn enwedig cyn y Nadolig,” ychwanegodd.

Mae’r gwirfoddolwyr yn parhau i gydweithio â’r gwasanaethau brys yno, ac yn helpu’r rhai sydd wedi’u heffeithio waethaf.