Mae Aelod Seneddol ieuengaf yr SNP ers dwy ganrif, Mhairi Black wedi derbyn gwobr gan Brifysgol Glasgow.
Derbyniodd Black, 20, radd dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth a Materion Cyhoeddus yn gynharach eleni a bellach, cafodd ei henwi’n Gyn-fyfyriwr Ifanc y Flwyddyn gan y brifysgol.
Roedd hi’n astudio ar gyfer arholiadau terfynol adeg yr etholiad cyffredinol ddechrau’r flwyddyn.
Hi yw’r Aelod Seneddol ieuengaf yn San Steffan ers 1832.
Dywedodd Mhairi Black: “Dim ond ychydig fisoedd yn ôl ro’n i yn yr un sefyllfa â phob myfyriwr arall, ar wib yn ceisio gorffen fy nhraethawd hir a sicrhau ’mod i’n barod ar gyfer fy arholiad olaf.
“Felly mae cael derbyn gwobr gan fy mhrifysgol fy hun yn anrhydedd enfawr ac mae’n fy ngalluogi i fyfyrio gymaint mae fy mywyd wedi newid yn ystod y misoedd diwethaf.”
Derbyniodd Mhairi Black y wobr gan Ganghellor y brifysgol, Syr Kenneth Calman mewn cinio yn Neuadd Bute.
Dywedodd Prifathro ac Is-Ganghellor y brifysgol, Anton Muscatelli: “Bu Mhairi yn llysgennad go iawn ar gyfer Prifysgol Glasgow, gan ddangos ymroddiad anferth i’w hastudiaethau yn ei blwyddyn olaf pan oedd hi’n canfasio ar gyfer yr etholiad ar yr un pryd.”
Mae cyn-enillwyr y wobr yn cynnwys gohebydd y BBC Martin Patience a’r gantores Emeli Sande.