Cafodd corff dyn ei ddarganfod ar draeth Llanelli fore Sul.

Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw am 9.46yb.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.

Mae lle i gredu ei fod yn ddyn lleol. Nid yw’r heddlu’n trin ei farwolaeth fel un amheus ac mae ymchwiliad yr heddlu’n parhau.