Cafodd corff dyn 32 oed ei ddarganfod mewn parc yng Nghaerdydd fore Sul.

Dywed Heddlu’r De bod cerddwr wedi dod o hyd iddo toc wedi 8 o’r gloch wrth gerdded gyda’i gi.

Dydy’r heddlu ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd.