Carl Sargeant
Cynghorau sir Casnewydd a Blaenau Gwent yw’r diweddaraf i honni nad yw’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol eu siroedd, yn ôl ymchwil newydd gan Gymdeithas yr Iaith.
Daeth agweddau’r ddau gyngor i’r amlwg yn dilyn arolwg oedd yn gofyn i awdurdodau lleol sut fydden nhw’n ymateb i ddeddfwriaeth cynllunio newydd.
Yn eu hymateb, dywedodd Cyngor Casnewydd “…nad yw’r Gymraeg yn rhan arwyddocaol o’r sylfaen cymdeithasol yng Nghasnewydd”.
Daeth Blaenau Gwent i’r “casgliad nad oedd y Gymraeg yn fater o bwys yn y fwrdeistref”.
Daw’r ymatebion diweddaraf wedi i Gyngor Caerdydd wneud sylwadau tebyg yn gynharach eleni.
O blith 20 o ymatebion gan gynghorau sir, dim ond tri oedd wedi awgrymu’n glir y byddan nhw’n adolygu eu polisïau oherwydd newidiadau i statws y Gymraeg.
Daeth y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol yn y system gynllunio am y tro cyntaf oherwydd Deddf Cynllunio (Cymru) 2015.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon llythyr at Weinidog Cynllunio Llywodraeth Cymru, Carl Sargeant yn mynegi pryderon am ganlyniadau’r arolwg.
Yn y llythyr, dywedodd llefarydd cymunedau’r Gymdeithas, Tamsin Davies: “Mae’n sarhad i’r Gymraeg bod tri chyngor wedi dod i’r casgliad nad yw’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol eu hardaloedd nhw.
“Mae’r casgliad hwn yn amlygu problem sylfaenol gyda’r canllawiau, sef nad ydynt yn galluogi i awdurdodau ystyried sut i ddefnyddio’r gyfundrefn cynllunio er mwyn symud at neu ddiogelu sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol yr ardal dan sylw.”
Cyn i’r ymatebion ddod i’r amlwg, roedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau wrth Gymdeithas yr Iaith na fyddai ymgynghoriad llawn ar y canllawiau cynllunio Cymraeg a fydd yn cael eu cyhoeddi yn y flwyddyn newydd.
Yn ôl y swyddog, bydd newidiadau ffeithiol i Nodyn Cyngor Technegol 20 yn unig yn hytrach ail-ystyriaeth lawn.
Mae’r canllawiau presennol yn dweud na ddylid cynnal asesiad effaith iaith ar ddatblygiadau unigol a dim ond ystyried y Gymraeg “lle bo’n rhan arwyddocaol o wead cymdeithasol y gymuned”.
Llythyr
Ychwanega Tamsin Davies yn ei llythyr at y Llywodraeth: “Credwn ei fod yn glir, yn sgil y Ddeddf Cynllunio a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, bod [y canllawiau] yn dod at gwestiwn o’r cyfeiriad anghywir.
“Ni ddylid gofyn cwestiynau tebyg i “ydy’r Gymraeg yn rhan o wead cymdeithasol yr ardal ar hyn o bryd?”, ond, yn hytrach, cwestiwn ar hyd y llinellau: “pa gamau y gallai awdurdod cynllunio eu cymryd drwy’r system gynllunio er mwyn cyfrannu at sicrhau bod y Gymraeg yn dod yn fwyfwy, neu’n parhau i fod, yn rhan o wead cymdeithasol yr ardal?”.
“Hynny ydy, dylai’r canllawiau pwysleisio sut y gallai’r system gyfrannu at gryfhau defnydd y Gymraeg yn yr ardal dros y blynyddoedd a degawdau i ddod er lles y genhedlaeth nesaf, yn hytrach nag edrych yn amddiffynnol ar y sefyllfa bresennol yn unig.
“Credwn fod rhaid ail-ystyried NCT 20, a hynny yn ei gyfanrwydd, yn sgil dyfodiad y ddeddfwriaeth newydd.
“Rydym eisoes wedi clywed bod cynghorau sydd yn mynd i ddilyn trywydd gwbl wahanol i’w gilydd yn dilyn y newid i’r gyfraith, gyda rhan fwyaf dim ond yn mynd i wneud newidiadau os yw’r canllawiau cenedlaethol yn newid yn sylweddol.
“Rydym yn pryderu y bydd aneglurder difrifol am oblygiadau pellgyrhaeddol y ddeddfwriaeth yn gyffredinol y gallai arwain at barhad a’r sefyllfa bresennol neu ddatblygiadau’n ddibynnol ar heriau cyfreithiol ad hoc.”