Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain gyhoeddi cynlluniau newydd i orfodi ymwelwyr o dramor a ffoaduriaid i dalu am ofal iechyd yn Lloegr.
Gallai’r cynlluniau newydd gael eu cyflwyno yn 2017, ac fe fyddai’n golygu y byddai’n rhaid i dramorwyr a ffoaduriaid dalu am brofion ac am gael triniaeth mewn unedau damweiniau ac achosion brys ac mewn ambiwlans.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, Jeremy Hunt y byddai’r cynlluniau newydd yn golygu y gallai £500 miliwn gael ei ddargyfeirio bob blwyddyn i gynnig gofal i gleifion.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei lansio ddydd Llun gan Syr Keith Pearson, ac fe fydd yn dod i ben ar Fawrth 6 y flwyddyn nesaf.
Ar hyn o bryd, mae tramorwyr a ffoaduriaid yn talu am nifer o wasanaethau iechyd, gan gynnwys llawdriniaethau nad ydyn nhw’n rhai brys, gofal cleifion mewnol a gofal cleifion allanol.
Dywedodd Llywodraeth Prydain y byddai’r cynlluniau’n sicrhau bod pobol sy’n derbyn triniaeth feddygol heb dalu trethi yn gwneud cyfraniad i’r Gwasanaeth Iechyd.
Dywedodd Jeremy Hunt: “Ry’n ni am sicrhau bod pawb yn gwneud cyfraniad teg i wasanaethau, drwy ymestyn tâl i sicrhau bod ymwelwyr yn talu am y gofal maen nhw’n ei dderbyn.”
Bydd ymgynghoriadau meddygol yn rhad ac am ddim o hyd, ond fe fydd tâl am belydr-X, profion diagnostig, ffisiotherapi, profion gwaed, profion ysgyfaint, presgripsiwn, gofal deintyddol a gofal llygaid.