Mae pwysau ar arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn i dynnu allan o ddigwyddiad elusennol sydd wedi’i drefnu gan y mudiad ‘Stop the War’.

Gwnaeth y mudiad sylwadau dadleuol am yr ymosodiadau brawychol diweddar ym Mharis.

Roedd disgwyl i Corbyn, cyn-gadeirydd y mudiad, annerch cynulleidfa mewn cinio yr wythnos hon.

Ond mae’r cyn-weinidog Cabinet Tristram Hunt wedi dweud bod y mudiad yn “amheus iawn”, ac fe alwodd ar Corbyn i beidio mynychu’r digwyddiad.

Roedd y mudiad wedi beirniadu Hilary Benn yn dilyn ei araith bwerus yn ystod y ddadl yn San Steffan ynghylch gweithredu milwrol yn Syria.

Dywedodd Tristram Hunt wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dw i ddim yn credu y dylai e fynd yno.

“Gwnaeth mudiad ‘Stop the War’ bicedu pencadlys y Blaid Lafur pan oedden ni’n ceisio rhedeg llinellau ffôn ar gyfer is-etholiad Oldham felly roedden nhw’n atal Aelod Seneddol Llafur rhag cael ei ethol.

“Ry’n ni hefyd wedi gweld nifer o sylwadau hyll ganddyn nhw am Hilary Benn a’r ffaith y dylid diswyddo Hilary Benn.

“Hefyd eu sylw am y Wladwriaeth Islamaidd, a’u sylwadau bod y Ffrancwyr yn haeddu’r hyn ddigwyddodd iddyn nhw.”