Pont ffordd y Forth ar ôl iddi gau ddoe (llun: Danny Lawson/Gwifren PA)
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cau pont brysuraf a phwysicaf y wlad tan y flwyddyn newydd oherwydd yr angen i wneud atgyweiriadau brys iddi.
Mae’r penderfyniad i gau pont ffordd y Forth, y bont grog anferthol o Gaeredin i Fife, wedi arwain at bryderon am effaith hyn ar drafnidiaeth y wlad.
Gan gydnabod bod y bont o bwysigrwydd cenedlaethol, dywed Gweinidog Trafnidiaeth yr Alban, Derek Mackay, fod popeth posibl yn cael ei wneud i leihau effaith ei chau.
Fe fydd gwasanaethau trên a fferi ychwanegol yn cael eu trefnu, ac fe fydd cerbydau brys yn dal i allu defnyddio’r bont i ymateb i alwadau 999.
Cafodd y broblem ei darganfod i ddechrau mewn archwiliad ddydd Mawrth, wrth i beirianwyr sylwi ar grac 20mm o led o dan y bont. Barn y peiranwyr oedd y byddai dal i adael cerbydau ar y bont yn cynyddu’r risg o beri rhagor o ddifrod difrifol iddi.
“Mae hwn yn her na welwyd ei debyg o’r blaen yn hanes y bont,” meddai Derek Mackay. “Bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i agor y bont cyn gynted â phosibl ond diogelwch yw’r brif flaenoriaeth.”