Heddlu arfog ar strydoedd Brwsel yr wythnos ddiwethaf (llun: PAP
Mae’n ymddangos bod gan rai o ymosodwyr Paris gysylltiadau â phobl yng nghanolbarth Lloegr.
Yn ôl adroddiadau, roedd Abdelhamid Adaaoud, a fu farw mewn cyrch gan yr heddlu ar ôl y gyflafan yn Paris, yn cadw cysylltiad â phobl yn Birmingham, gan gynnwys amryw o dras Morocaidd.
Roedd un arall o’r saethwyr wedi teithio i Lundain a Birmingham yn gynharach eleni, i gyfarfod pobl yr amheuir bod ganddyn nhw’r bwriad a’r gallu i gynllwynio neu gyflawni ymosodiadau ym Mhrydain.
Er bod prif gwnstabl cynorthwyol Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, Marcus Beale, yn gwrthod cadarnhau’r adroddiadau, dywed fod yr heddlu’n cydweithio’n agos â’r awdurdodau yn Ffrainc a Gwlad Belg.
“Rydym yn gweithio law yn llaw â chydweithwyr yn Llundain a’r gwasanaethau diogelwch i roi cymorth i’r ymchwiliadau yn Ffrainc a Gwlad Belg ac wrth gwrs i fynd i’r afael ag unrhyw fygythiad i Brydain,” meddai.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau diogelwch pobl sy’n byw ac yn gweithio ac yn ymweld ag ardal Gorllewin Canolbarth Lloegr.”
Y gred yw bod Abaaoud, 27 oed, dinesydd Belgaidd o dras Morocaidd, wedi arwain 10 o eithafwyr Islamaidd eraill yn yr ymosodiadau yn Paris y mis diwethaf, gan ladd 130 o bobl. Cafodd ef, ei gyfnither a dyn arall ei saethu’n farw mewn cyrch gan yr heddlu ddyddiau’n ddiweddarach.
Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau yng ngwlad Belg yn dal i chwilio am Salah Abdeslam sy’n cael ei amau o gymryd rhan yn yr ymosodiad yn Paris, ac wedi enwi dau ddyn arall y maen nhw’n chwilio amdanynt mewn cysylltiad â’r ymosodiad.