Mae storm Desmond yn dal i daro Cymru gan achosi gwyntoedd cryfion a llifogydd mewn llawer ardal.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoedi rhybudd melyn o dywydd garw ar gyfer Ceredigion, Powys a holl siroedd y gogledd, wrth i stormydd de-orllewinol barhau dros lawer rhan o Brydain.
Mae dau Rybudd Llifogydd mewn grym – un yn nyffryn Conwy yn Llanrwst a’r llall yn nyffryn Dyfrdwy islaw Llangollen.
Mae 9 o Rybuddion Llifogydd ‘Byddwch Barod’ hefyd mewn grym yn yr ardaloedd canlynol: Dalgylchoedd Môn, Gogledd Gwynedd, Glaslyn a Dwyryd, Conwy, Dyfir, rhan uchaf dyffryn Dyfrdwy o Lanuwchllyn i Langollen, rhan uchaf dyffryn Hafren ym Mhowys a de Sir Benfro.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhybuddio bod disgwyl i bethau waethygu wrth i’r glaw trwm barhau drwy’r dydd.
Yn yr un modd, mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio bod gwyntoedd o 60 milltir yr awr a mwy yn debygol, ac y bydd pethau ar eu gwaethaf yn y prynhawn a dechrau gyda’r nos. Mae gwyntoedd o’r fath yn ddigon cryf i beri difrod i adeiladau ac i chwythu coed i lawr, ac yn debyg o achosi rhwystrau wrth deithio.
Mae Trenau Arriva Cymru eisoes wedi cyhoeddi y bydd eu trenau uniongyrchol o Gaergybi i Gaerdydd yn diweddu yng Nghaer, er y bydd modd defnyddio gwasanaethau eraill i deithio oddiyno i Gaerdydd.