Helen Mary Jones, ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli
Mae angen gwneud mwy i adfywio canol trefi, yn ôl Plaid Cymru, sy’n mynegi pryder bod llai a llai o bobl yn siopa ar y stryd fawr yng Nghymru.
Fe fydd ymgeisydd y blaid yn Llanelli, Helen Mary Jones, yn lansio cynlluniau Plaid Cymru i gefnogi siopau bach neu annibynnol ar hyd a lled Cymru heddiw.
Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:
- Canolbwyntio ar brynu’n lleol fel bod cyrff cyhoeddus yn rhoi mwy o gontractau i gwmniau lleol, gan gadw arian yn yr economi leol a chreu hyd at 50,000 o swyddi ychwanegol yng Nghymru
- Cynllun rhyddhad trethi busnes fyddai’n helpu 83,000 busnes yng Nghymru ac yn cymryd 70,000 o fusnesau allan o drethi busnes yn gyfan gwbl
- Helpu busnesau bach i gael y cyllid mae arnyn nhw ei angen trwy sefydlu banc busnes Cymreig.
Dywedodd Helen Mary Jones fod nifer y rhai oedd yn siopa ar y stryd fawr yng Nghymru ym mis Gorffennaf eleni wedi cwympo 4.4% o gymharu â’r un cyfnod y llynedd.
Enghraifft amlwg
Dywedodd fod canol tref Llanelli yn enghraifft amlwg o stryd fawr mewn anhawster yn yr hinsawdd economaidd presennol.
Meddai Helen Mary Jones:
“Busnesau bach yw asgwrn cefn economi Cymru. Nhw yw 98% o holl fusnesau Cymru ac maen nhw’n hanfodol i’n heconomi. Ond mae’r dirywiad yn nifer y rhai sy’n siopa ar y stryd fawr yn profi nad yw’r adferiad economaidd yn cyrraedd pob rhan o’n cymunedau.
“Mae cwmniau bach yn ail-wario yn lleol ryw 63c o bob punt maen nhw’n ei dderbyn, felly mae’n bwysig o ran cadw arian yn cychdroi yn yr economi lleol. Gwyddom hefyd, ar draws Prydain, fod cwmniau bach lleol yn cynhyrchu 58% yn fwy o fudd economaidd i’r economiau lleol na chwmniau mawr. Mae’r ffigyrau yn siarad drostyn nhw’u hunain: mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi ein busnesau bach.
“Trwy ysgafnhau’r baich trethi busnes, ei gwneud yn haws iddyn nhw gael cyllid a chynyddu nifer y contractau sector cyhoeddus sy’n cael eu dyfarnu i fusnesau bach, gallwn gryfhau economiau lleol a chadw’r bunt Gymreig yn cylchdroi yn lleol.
“Plaid Cymru yw plaid y stryd fawr, a gall ein polisiau adfywio canol ein trefi.”