Mae Prifysgol Bangor wedi agor canolfan iaith newydd yn yr Wyddgrug ar ôl cynnydd yn y nifer o bobl yn yr ardal sydd eisiau dysgu Cymraeg.

Cafodd canolfan ‘Pendre Newydd’, fydd yn cael ei rhedeg gan fenter Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, ei hagor yn swyddogol ddoe gan Aelod Cynulliad Gogledd Cymru Llŷr Gruffydd.

Bwriad y ganolfan, sydd wedi’i lleoli ar stad ddiwydiannol Bromfield, fydd darparu ar gyfer anghenion dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn yr ardal wrth gynnig lle i ddysgu a chymdeithasu yn yr iaith.

“Fe wnaeth brwdfrydedd y dysgwyr, tiwtoriaid a’r siaradwyr Cymraeg yn y lansiad greu argraff arna i,” meddai Llŷr Gruffydd.

“Fe fydd y ganolfan yma’n adeiladu ar waith gwych mae Prifysgol Bangor eisoes yn ei wneud yn Sir y Fflint, ac yn annog mwy o bobl i ddod ac ymarfer eu Cymraeg a’i chlywed yn cael ei siarad fel iaith fyw.”

Mwy yn rhugl

Yn ôl yr arolwg diweddaraf ar ddefnydd y Gymraeg roedd 1,800 yn fwy o bobl yn Sir y Fflint oedd yn rhugl yn y Gymraeg o’i gymharu â’r arolwg diwethaf yn 2004-06.

Yn ôl Cymraeg i Oedolion mae dros 1,000 o bobl wedi cofrestru i ddysgu Cymraeg yn yr ardal eleni, ac fe allai ymweliad Eisteddfod yr Urdd â’r sir yn 2016 roi hwb pellach i’r Gymraeg.

“Mae cael canolfan iaith fodern fel Pendre Newydd yn angenrheidiol, fel bod modd darparu gwersi a bod yn hwb i’r iaith Gymraeg,” meddai Ifor Gruffydd, cyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru.

“Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad sy’n ymestyn nôl 33 mlynedd o ddysgu Cymraeg yn Sir y Fflint, ac rydyn ni’n unigryw gan ein bod ni’n cynnal cyrsiau ar draws pob lefel.

“Mae’r ganolfan hon yn gonglfaen i ddyfodol dysgu Cymraeg yn y sir.”