April McMahon
Mae Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth April McMahon wedi cyhoeddi y bydd hi’n gadael ei swydd ym mis Gorffennaf 2016.

Cafodd ei phenodi i’r rôl yn 2011 ar gytundeb pum mlynedd, ond fe ddywedodd wrth y brifysgol heddiw nad oedd hi am barhau yn y swydd pan fydd y cytundeb hwnnw’n dod i ben.

Mae’r brifysgol wedi bod dan y lach yn ystod ei chyfnod wrth y llyw ar ôl cwympo yn nhablau’r prifysgolion a wynebu honiadau o fwlio yn erbyn staff.

Yn gynharach eleni fe awgrymodd cyn-bennaeth Adran y Gymraeg yn Aberystwyth wrth Golwg360 bod “gwendidau mawr [yn] arweinyddiaeth y brifysgol”, gan gynnwys y ffordd roedden nhw wedi delio â chau Neuadd Pantycelyn.

‘Llwyddiannau niferus’

“Ar ôl dwys ystyried, rwyf wedi penderfynu na fyddaf yn ceisio adnewyddu fy nghytundeb ar ddiwedd fy nhymor o bum mlynedd,” meddai April McMahon mewn datganiad gafodd ei anfon i fyfyrwyr brynhawn dydd Gwener.

“Rwyf yn hynod o falch o’r gwaith rwyf wedi’i gyflawni gyda chymaint o bobl eithriadol yn rhoi Prifysgol Aberystwyth yn gadarn ar y llwybr i gynaliadwyedd yn y dyfodol.

“Mae wedi bod ac yn parhau i fod yn bleser ac yn fraint i wasanaethu ac arwain y Brifysgol arbennig hon, i weithio drwy’r anawsterau y bu’n rhaid i ni eu hwynebu, ond hyd yn oed yn bwysicach oll, i annog pawb i ddathlu ein llwyddiannau niferus.

“Cafwyd llawer iawn o’r llwyddiannau hynny yn ddiweddar, ac felly rwy’n teimlo’n hyderus iawn fod y Brifysgol bellach yn gadarn ar y trywydd cywir, gan olygu mai dyma’r amser priodol i rywun arall i ddod ac arwain y cam nesaf, a chaniatáu i mi ystyried fy mlaenoriaethau a chyfleoedd nesaf.”

Ailstrwythuro

Diolchodd Canghellor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones-Parry, i April McMahon am ei chyfraniad gan fynnu ei bod hi wedi dangos “gallu chwim i ymdopi’n dda â’r newidiadau cyflym oedd eu hangen yn Aberystwyth yn erbyn amgylchedd allanol anodd”.

“Roedd hyn yn cynnwys ailstrwythuro gweithrediadau academaidd y Brifysgol yn Athrofeydd er mwyn datganoli arweinyddiaeth a chyfrifoldeb ariannol; a gwella tryloywder llif gwybodaeth i’r Cyngor,” meddai Syr Emyr Jones-Parry.