Mae troseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid wedi treblu yn dilyn yr ymosodiadau diweddar ar Baris, yn ôl ffigurau Scotland Yard.

Yn yr wythnos oedd yn gorffen ar 10 Tachwedd, tri diwrnod cyn y gyflafan a laddodd 130 o bobol, roedd yr heddlu yn Llundain wedi cael gwybod am 24 o ddigwyddiadau yn ymwneud ag Islamoffobia.

Roedd y ffigwr bron â dyblu i 46 yn yr wythnos yn dilyn yr ymosodiadau ac roedd cynnydd pellach i 76 o achosion yn ystod yr wythnos ganlynol.

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod y mwyafrif o droseddau yn gysylltiedig ag achosion o harasio.

Cynnydd o 18% yng Nghymru a Lloegr yn 2014/15

Roedd ffigurau a gafodd eu cyhoeddi ar ddechrau’r flwyddyn yn dangos bod nifer y troseddau casineb a gafodd eu hysbysu i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi neidio bron i un rhan o bump.

Roedd 52,528 o droseddau o droseddau o’r fath yn 2014/15, sy’n gynnydd o 18% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Roedd dros 80% o’r rhain yn droseddau casineb hiliol, gydag eraill yn cynnwys dioddefwyr crefyddol, anabl, hoyw a lesbiaidd a thrawsrywiol.

Yn ôl gwaith dadansoddi’r Arolwg Troseddu dros Gymru a Lloegr, Mwslemiaid yw’r grŵp sy’n fwyaf tebygol o gael ei dargedu mewn troseddau casineb yn erbyn crefydd.

Cofnodi troseddau yn erbyn Mwslemiaid ar wahân

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cyhoeddi y bydd troseddau casineb yn erbyn Mwslemiaid yn cael eu cofnodi mewn categori ar wahân am y tro cyntaf.

Mae ffigurau’r heddlu hefyd wedi nodi cynnydd mewn troseddau gwrth-Semitaidd mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig, gyda’r ffigurau yn Llundain yn dyblu mewn blwyddyn.