JimMcMahon - a'i bartner Charlene - yn dathlu (Llun PA)
Fe lwyddodd Llafur i gadw sedd Gorllewin Oldham a Royton gyda chynnydd yn eu rhan o’r bleidlais.

Mae’r arweinydd, Jeremy Corbyn, yn hawlio bod canlyniad yr isetholiad yn “bleidlais o hyder” yn y blaid.

Ond, yn ôl UKIP a ddaeth yn ail, roedd y canlyniad wedi ei ystumio gan bleidleisiau post ac maen nhw wedi galw am newid yn y rheolau.

“A finnau wedi bod mewn 30 isetholiad, dw i erioed wedi gweld canlyniad mor rhyfedd,” meddai arweinydd UKIP, Nigel Farage. “Mae angen gofyn cwestiynau difrifol.”

Y canlyniad

Fe lwyddodd yr ymgeisydd Llafur, Jim McMahon, i gael 17,209 o bleidleisiau a 62.1% o’r bleidlais – cynnydd ar y tro diwetha’.

Dim ond 6,407 a gafodd UKIP a hynny’n golygu symudiad oddi wrthyn nhw at Lafur a hynny mewn sedd oedd wedi cael ei dal gan un o hen eilunod y chwith, Michael Meacher.

“Mae’n arwydd clir fod Llafur yn blaid y mae gweithwyr yn ymddiried ynddo,” meddai Jeremy Corbyn.