David Melding
Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi galw am fwy o gydweithio tros y mesur sy’n newid pwerau datganoli yng Nghymru.
Maen nhw’n feirniadol o elfennau Fesur Cymru gan ddweud bod peryg i’r Cynulliad golli grym yn hytrach nag ennill rhagor.
Maen nhw’n dweud bod y mesur yn flêr ac yn “annealladwy” i bobol gyffredin ac maen nhw wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am fethu â thrafod digon.
‘Angen cyd-drafod’
Mae’r cyd-drafod oedd yn digwydd ar ddechrau’r broses o greu’r Mesur yn San Steffan wedi cael ei golli, meddai David Melding, Cadeirydd Pwyllgor Cyfansoddiadol y Cynulliad, sydd hefyd yn Ddirprwy Lywydd.
Roedd angen mwy o gyd-drafod rhwng y Cynulliad a San Steffan a rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain, meddai ar ôl cyhoeddi adroddiad ar y Mesur. Roedd y Mesur wedi ei “wneud i Gymru ond nid gyda Chymru”.
Ond fe ddywedodd ei fod yn ffyddiog fod modd cael cytundeb yn y pen draw.
‘Anfwriadol’
Bwriad y Mesur yw ei gwneud yn gliriach pa bwerau sydd gan y Cynulliad, gan ddilyn model tebyg i Senedd yr Alban trwy nodi pa bwerau sy’n cael eu cadw yn Llundain.
Ond mae wedi cael ei feirniadu am fod yn rhy gymhleth a thynnu rhai pwerau’n ôl i Lundain.
Mae’n bosib mai anfwriadol oedd hynny, meddai David Melding – fel arall fe ddylai Llywodraeth Prydain wneud eu bwriad yn glir.
Mae Llywodraeth Prydain yn dadlau eu bod yn gweithredu ar dri-chwarter yr argymhellion yn Adroddiad Silk ar ddatganoli.