John McDonnell
Mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell wedi mynnu fod Jeremy Corbyn yn parhau i fod a chefnogaeth mwyafrif llethol ei blaid yn dilyn ei wrthwynebiad i’r cyrchoedd awyr yn Syria.

Roedd John McDonnell yn ymateb i sylwadau gan yr AS Llafur Frank Field a oedd yn galw am ddau arweinydd yn y Blaid Lafur – un yn cael ei ethol gan yr aelodau a’r llall gan ASau, ond wfftiodd John McDonnell hynny.

“Beth wnaeth Jeremy ddangos ddoe oedd cefnogaeth lethol ymhob rhan o’r Blaid, ymhlith aelodau, ar bwyllgor cenedlaethol y Blaid ac ymhlith aelodau o’r Blaid Seneddol a chabinet yr Wrthblaid – roedd ganddo fwyafrif ymhob rhan. Fo sy’n arwain y Blaid.”

Mae John McDonnell hefyd yn mynnu y bydd llefarydd tramor yr Wrthblaid, Hilary Benn yn gallu parhau i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif dros gyrchoedd milwrol yn Syria, er iddo gefnogi’r Llywodraeth yn ystod y bleidlais yn y Senedd nos Fercher, gan fynd yn groes i safbwynt Jeremy Corbyn.

‘Araith dda’

Roedd John McDonnell yn cydnabod fod Hilary Benn wedi gwneud araith dda wrth gyflwyno’r achos o blaid bomio IS ond fe rybuddiodd: “Roedd yn fy atgoffa o araith Tony Blair a arweiniodd ni i ryfel yn Irac. Dw i wastad yn bryderus fod areithiau mawr yn gallu ein harwain at gamgymeriadau mawr.

“Dyna ddigwyddodd yn Irac, a dwi’n ofni ein bod ni wedi gwneud yr un camgymeriad neithiwr.”

Ychwanegodd, “Fe fyddwn yn cadw llygad ar y Llywodraeth ac yn eu dwyn i gyfrif ar y materion hyn ac fe fydd Hilary Benn yn gwneud hynny mor effeithiol â gweddill Tŷ’r Cyffredin.”