Dr Geraint Tudur
Mae Undeb yr Annibynwyr Cymraeg wedi cwyno am sylw a wnaed gan y Prif Weinidog cyn y ddadl ar gynnal ymosodiadau o’r awyr ar y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Syria ddoe.

Mae Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Geraint Tudur wedi ysgrifennu at yr Awdurdod Safonau Seneddol yn gofyn am ymddiheuriad gan David Cameron am ei sylw bod pawb sy’n gwrthwynebu bomio cadarnleoedd IS yn Syria yn “cydymdeimlo â brawychwyr.”

Roedd nifer o ASau, gan gynnwys arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn, wedi galw ar David Cameron i ymddiheuro ddoe ond fe wrthododd wneud hynny.

‘Cwbl annerbyniol’

“Mi o’n i’n gwylio’r ddadl ar y teledu neithiwr ac roedden nhw’n dangos cymaint oedd Aelodau Seneddol wedi gofyn iddo fo i ymddiheuro ac i gymryd ei sylwadau yn ôl, ac mae’n amlwg bod y gosodiad wedi aflonyddu ar lu mawr o bobol,” meddai Geraint Tudur wrth golwg360.

“Mae’n bryd iddo ddangos arweiniad a dewrder a jyst ymddiheuro.”

Dywedodd hefyd y gallai gosodiad o’r fath gael effaith ar ymateb y cyhoedd gan ddweud bod pobol yn debygol o ‘fabwysiadu’r syniadau’ y mae gwleidyddion yn eu gwneud.

“Dyna be ydy’r peryg gyda’r math yma o beth bod pobol sy’n tueddu i fod yn fwy i gyfeiriad yr adain dde wleidyddol yn mynd i gymryd geiriau David Cameron, am ei fod e’n Brif Weinidog, fel gosodiad derbyniol… wel, i’r gweddill ohonom ni, mae e’n gwbl annerbyniol.”

Gwrthwynebu mynd i ‘ryfel’

Mae Geraint Tudur yn gwrthwynebu’r penderfyniad a gafodd ei wneud neithiwr yn Nhŷ’r Cyffredin i gynnal cyrchoedd o’r awyr ar Syria, ac yn dweud nad oes ‘ymdrech wirioneddol’ i ddod â sefydlogrwydd i’r Dwyrain Canol.

“Dwi’n gwrthwynebu bod Prydain yn mynd i ryfel ar bob cyfle bach mae hi’n cael… tydan ni’n dysgu dim o hyd yn oed hanes diweddar Prydain a’r camgymeriadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud.”