David Cameron yn annerch ASau yn ystod y ddadl yn y Senedd
Mae gwleidyddion yn San Steffan wedi bod yn cyflwyno’u dadleuon o blaid ac yn erbyn cynnal cyrchoedd bomio yn Syria er mwyn trechu Daesh (IS).

Mae disgwyl tua 10 awr o drafodaethau cyn i wleidyddion fynd ati heno i bleidleisio ynghylch cynnig Llywodraeth Prydain i ymyrryd yn filwrol yn Syria.

Yn ystod y drafodaeth, mae disgwyl i hyd at 150 o aelodau seneddol o chwe phlaid gyflwyno’u dadleuon.

Dechreuodd y ddadl gydag araith gan y Prif Weinidog, David Cameron wrth iddo amlinellu pam fod ei lywodraeth Geidwadol o blaid cynnal cyrchoedd bomio.

Dywedodd fod gan wleidyddion ddewis rhwng herio eithafwyr Islamaidd neu “aros iddyn nhw ymosod arnon ni”.

Ond yn gysgod ar ei araith roedd ei sylwadau sarhaus am wrthwynebwyr y cyrchoedd, ar ôl iddo ddweud mewn pwyllgor tu ol i ddrysau caeedig bod unrhyw un sy’n gwrthwynebu’r cyrchoedd yn “cydymdeimlo â brawychwyr”.

Yn ystod y ddadl, gwrthododd Cameron ymddiheuro, ond fe ildiodd ei fod yn parchu unrhyw un sy’n pleidleisio yn erbyn ei gynnig.

Jeremy Corbyn

Y gwrthwynebydd amlycaf i’r cynnig yw arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, ond mae e wedi rhoi’r hawl i aelodau’r Blaid Lafur benderfynu drostyn nhw eu hunain a fyddan nhw’n cefnogi’r cynnig neu beidio.

Dywedodd Corbyn y byddai cyrchoedd bomio yn “anochel yn arwain at farwolaethau pobol ddiniwed”, ac fe gyhuddodd Cameron o gynnal pleidlais cyn bod y cyhoedd yn mynegi eu gwrthwynebiad.

Mynegodd Corbyn bryder ynghylch unrhyw gamau a fyddai’n cael eu cymryd yn dilyn y cyrchoedd i adfer sefydlogrwydd yn Syria.

Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch

Mae’r SNP eisoes wedi datgan y byddan nhw’n gwrthwynebu’r cynnig, ond mae cadeirydd y Pwyllgor Cudd-wybodaeth a Diogelwch yn San Steffan, Dominic Grieve wedi cyhuddo’r cenedlaetholwyr o beidio cynnig dadleuon i gefnogi eu safbwynt.

Dywedodd Grieve: “Rydych chi’n codi cwestiynau sy’n berffaith ddilys y dylid eu hateb, rwy’n credu, yn ystod y ddadl.

“Ond yr hyn rydych chi’n rhuthro drosto yw eich safbwynt chi a’ch plaid ar y gweithrediadau presennol sydd, rwy’n credu y byddwch chi’n cytuno â fi, yn rheoli gallu Daesh i fod yn dreisgar a chreulon yn yr ardal, a brawychiaeth yn Ewrop.”

‘Absẃrd’

Yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox, nid creu rhyfel newydd yw nod y cyrchoedd bomio arfaethedig.

Yn hytrach, eu diben yw ehangu ymgyrch filwrol sy’n bodoli eisoes, meddai, a hynny dros ffiniau nad ydyn nhw’n bodoli yn y tywod.

“Mae ein cynghreiriaid, yn syml iawn, yn credu ei bod yn absẃrd fod Prydain yn rhan o ymgyrch filwrol yn erbyn Daesh, ond nid yn Syria.

“Mae’n safbwynt milwrol hynod absẃrd gennym ni ac mae gennym gyfle i newid hynny heddiw.”

‘Dim tystiolaeth’

Mae Tad Tŷ’r Cyffredin, Syr Gerald Kaufman yn dweud nad oes tystiolaeth ynghylch manteision cynnal cyrchoedd awyr yn Syria nac y bydden nhw’n llwyddo i drechu Daesh.

“Does dim tystiolaeth o unrhyw fath y bydd bomio Daesh, bomio Raqqa, yn arwain at gynnydd mewn pobol eraill yn y rhanbarth i gael gwared arnyn nhw.”

Ychwanegodd na fyddai’r eithafwyr yn cael eu “tanseilio” gan gyrchoedd awyr.

‘Gwneud y peth cywir’

“Gwneud y peth cywir” yn hytrach na “chefnogi cynghreiriaid” yw’r flaenoriaeth, meddai’r AS Llafur, Derek Twigg.

Dywedodd fod y dadleuon o blaid cynnal cyrchoedd awyr yn gryf, ond fod gwneud y peth cywir yn bwysicach.

Cyfeiriodd at benderfyniad Ffrainc i beidio cefnogi rhyfel Irac yn 2003 a oedd yn “safbwynt hollol resymol… gan eu bod nhw’n credu mai dyna’r peth cywir i’w wneud”.

Cyfrifoldeb gwledydd eraill

Wrth ddatgan y byddai’n gwrthwynebu’r cyrchoedd “symbolaidd”, dywedodd y Ceidwadwr David Davis fod rhaid i wledydd megis Twrci a Saudi Arabia gymryd peth o’r cyfrifoldeb am drechu’r eithafwyr.

Galwodd ar Dwrci i gau ei ffiniau gyda Syria, ac ar Saudi Arabia i dynnu’n ôl o gytundebau masnachu.

Cefnogi’r Cenhedloedd Unedig

Dylai aelodau seneddol ymdrechu i gefnogi safbwynt y Cenhedloedd Unedig o blaid gweithredu’n filwrol yn Syria, yn ôl y cyn-Ysgrifennydd Tramor, Margaret Beckett.

Ond cyfaddefodd fod hon yn “ddadl o wrthddweud”.

“Er bod datganiad y Cenhedloedd Unedig yn trafod yr angen i geisio proses heddwch, mae’n galw gwladwriaethau sy’n aelodau i weithredu nawr.”

Ailadrodd camgymeriadau’r gorffennol

Gallai Llywodraeth Prydain ailadrodd camgymeriadau a gafodd eu gwneud yn y gorffennol os nad oes ganddyn nhw gynllun tymor hir i sefydlogi’r wlad, yn ôl y Ceidwadwr John Baron.

Wrth drafod ei welliant, dywedodd Baron: “Heb strategaeth gynhwysfawr, bydd cyrchoedd awyr yn syml iawn yn atgyfnerthu methiant hirdymor y Gorllewin yn y rhanbarth.”

Ychwanegodd fod perygl y gallai diffyg strategaeth arwain at y camgymeriadau a gafodd eu gwneud yn Irac a Libya.

‘Ateb anghyflawn’

Er ei fod yn cefnogi’r cyrchoedd awyr “cyfiawn”, dywedodd y Ceidwadwr Syr Alan Duncan nad “ateb cyflawn” yw cynnal y cyrchoedd.

Dywedodd na allai Prydain droi eu cefn ar eu dyletswyddau yn y rhanbarth yn dilyn y cyrchoedd.

“Os ydyn ni am geisio dinistrio Isis, Daesh ac ailadeiladu llywodraeth sefydlog a chynnig sefydlogrwydd ehangach a gwneud hynny oll yn amcan argyhoeddedig ar gyfer ein polisi tramor, yna rhaid i ni fod yn rhan o’r llu sy’n ceisio gwneud hynny.”

‘Milwyr troed’

Wrth ddatgan ei wrthwynebiad, dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Andy Burnham nad yw wedi’i argyhoeddi fod cyrchoedd awyr ar eu pen eu hunain yn ddigon i drechu eithafwyr Islamaidd.

Dywedodd nad yw Llywodraeth Prydain wedi cynnig digon o wybodaeth am y defnydd o filwyr ar droed yn Syria.

Ond dywedodd nad yw’n cefnu’n llwyr ar y posibilrwydd o gynnal cyrchoedd awyr rywbryd eto yn y dyfodol.

Wrth drafod y bleidlais rydd, dywedodd Burnham ei fod yn croesawu safbwynt Corbyn a bod y penderfyniad wedi’i wneud yn y modd cywir heb darfu ar y ddadl dan sylw.

Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau am nifer o oriau cyn i’r bleidlais gael ei chynnal am oddeutu 10.30yh heno. Y disgwyl yw y bydd David Cameron yn ennill y bleidlais gyda mwyafrif cyfforddus.