Mae ffrae wedi codi yn ystod trafodaethau am gyrchoedd bomio yn Syria ynghylch pa enw y dylid ei ddefnyddio wrth gyfeirio at yr eithafwyr Islamaidd.

‘Islamic State’ neu’r Wladwriaeth Islamaidd yw’r enw sydd wedi’i arddel ers tro, ond dywedodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron wrth agor y ddadl yn San Steffan heddiw y dylid dechrau defnyddio’r term Daesh.

Wrth egluro’i resymau, dywedodd David Cameron ei fod wedi galw ar y BBC ym mis Mehefin i beidio defnyddio’r Wladwriaeth Islamaidd neu ‘Islamic State’.

Daesh

Daw’r term Daesh o acronym Arabaidd ar gyfer Isil, sef ad-Dawlah al-Islamiyah fi ’I-Iraq wa-sh-Sham.

Mae’r term yn amhoblogaidd ymhlith eithafwyr Islamaidd, gan ei fod yn debyg i’r geiriau Arabaidd ‘Daes’ sy’n golygu “un sy’n cywasgu rhywbeth dan droed”, a Dahes, sef “un sy’n gwau anghytgord”.

Termau eraill

Isis

Hwn oedd y term a gafodd ei ddefnyddio’n fwyaf helaeth pan ddaeth y grŵp i amlygrwydd yng ngwledydd y Gorllewin, ac mae’n acronym o’r enw Saesneg ‘Islamic State of Iraq and al-Sham’. Mae al-Sham yn un o ranbarthau Syria. O dan yr enw hwn, roedd gan yr eithafwyr gysylltiadau ag al-Qaida.

Islamic State

Wrth i orwelion yr eithafwyr ehangu y tu hwnt i Syria ac Irac yn 2014, cafodd y cyfeiriadau at y ddwy wlad yn eu henw eu hepgor, a newidiodd yr enw Arabaidd i ad-Dawlah al-Islamiyah, neu ‘Islamic State’ yn Saesneg (neu’r Wladwriaeth Islamaidd yn Gymraeg).

Ond mae Mwslemiaid yn gwrthwynebu’r defnydd o’r enw, gan ddadlau nad yw’r eithafwyr yn Islamaidd nac yn wladwriaeth go iawn.

ISIL

Ystyr ISIL yw ‘Islamic State of Iraq and the Levant’. Levant yw’r enw Ffrengig ar ardal yn y Dwyrain Canol rhwng de Twrci a’r Aifft.

Beth sydd mewn enw?

Wrth i’r ddadl rygnu ymlaen, mae arbenigwr ar amddiffyn wedi dweud ei bod yn ddadl am yr enw  yn“hollol ddibwrpas”.

Yn ôl Shashank Joshi o’r Sefydliad Gwasanaethau Unedig Brenhinol, mae’r ddadl yn tynnu sylw oddi ar wir bwrpas y dadleuon yn San Steffan heddiw, sef penderfynu a ddylid cynnal cyrchoedd bomio yn Syria.

Dywedodd: “Mae’n ddadl hollol dwp a dibwrpas. Mae’n hollol ddiystyr, yn hollol ddibwrpas ac yn fath o arwydd o rinweddau wrth i bobol ddweud ‘Edrychwch pa mor dda ydw i’ ac ‘edrychwch gymaint dw i’n casáu Isis oherwydd rwy’n gwybod sut i’w bychanu gan ddefnyddio iaith’.”

Ychwanegodd mai “sgandal” yw’r amser sydd wedi cael ei dreulio’n trafod pa enw i’w ddefnyddio.

“Mae’n syml iawn, iawn: os nad ydych chi am ei alw’n Islamic State rydych chi’n ei alw’n Daesh, yna rydych chi’n dwpsyn gan ei fod yn golygu ‘Islamic State’ yn yr iaith Arabaidd.

“Rhaid i chi fod yn hurtyn o’r radd flaenaf oll i gredu bod hon yn ffordd effeithiol dros ben o leihau dilysrwydd sefydliad drwy ei alw wrth ei union enw yn yr iaith Arabaidd.”