Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws wedi cyflwyno saith o adroddiadau newydd i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg.
Wrth gyflwyno’r adroddiadau, cyhoeddodd Meri Huws y camau nesaf yn y broses o gyflwyno’r safonau.
Bydd yr adroddiadau’n gosod cyfrifoldebau newydd ar 64 o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Prydain, darparwyr tai cymdeithasol, cwmnïau dŵr, Grŵp y Post Brenhinol a Swyddfa’r Post.
Hwn yw’r ail gylch o adroddiadau, yn dilyn cyhoeddi adroddiadau mewn perthynas â 26 o sefydliadau yn y cylch cyntaf, a’r rheiny’n canolbwyntio ar gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol Cymru, awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru.
Mae’r ail gylch hefyd yn canolbwyntio ar 119 o sefydliadau sy’n cynnwys byrddau a chyrff iechyd, heddluoedd, sefydliadau addysg bellach ac uwch, a chyrff cyhoeddus.
‘Tir newydd’
Mewn datganiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Yn yr adroddiadau hyn rwy’n argymell gosod dyletswyddau iaith Gymraeg statudol ar sefydliadau nad ydynt wedi dod dan orfodaeth o’r fath yn y gorffennol ac wrth wneud hyn rydym yn cymryd cam sylweddol i dir newydd.
“Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y sectorau hyn yn cael dylanwad sylweddol ar fywydau pobl yng Nghymru ac rwyf am weld mwy o gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.”
Bydd rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i’r safonau wrth greu rheoliadau safonau ar gyfer y sefydliadau dan sylw.
Does dim disgwyl i drydydd cylch o safonau gael ei gwblhau cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai oherwydd prinder amser.
Cam olaf y broses o gyflwyno’r Safonau fydd gosod dyletswyddau penodol ar sefydliadau drwy hysbysiadau cydymffurfio.
Sectorau eraill
Bydd ymchwiliad yn dechrau gyda’r sectorau trenau a bysys cyn diwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf gydag adroddiad erbyn mis Medi, a’r sectorau nwy a thrydan cyn diwedd Mehefin, gydag adroddiad erbyn mis Rhagfyr.
Does dim amserlen eto ar gyfer gosod hysbysiadau cydymffurfio ar sefydliadau unigol cylch 2.