Recep Tayyip Erdogan

Mae un o ddirprwy weinidogion llywodraeth Rwsia wedi cyhuddo arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan o fod â chysylltiadau â Daesh (IS) ac o elwa o gytundebau masnachu gydag eithafwyr Islamaidd.

Daw’r cyhuddiadau gan y Dirprwy Weinidog Amddiffyn Anatoly Antonov ar ôl i Dwrci saethu awyren Rwsiaidd i’r llawr ger y ffin â Syria yr wythnos diwethaf, sydd wedi arwain at ffrae sylweddol rhwng y ddwy wlad.

Wrth annerch y wasg ym Mosgo, dywedodd Antonov fod ganddo dystiolaeth i gefnogi ei sylwadau bod gan Erdogan a’i deulu gysylltiadau â’r diwydiant olew.

“Fe wyddom bris geiriau Erdogan… ni fydd arweinwyr Twrci’n camu o’r neilltu ac ni fyddan nhw’n cydnabod unrhyw beth hyd yn oed os yw olew a gafodd ei ddwyn yn cael ei ledaenu ar draws eu hwynebau.”

Mae Antonov yn honni bod Daesh (IS) yn gwneud elw o $2bn (£1.33bn) y flwyddyn o fasnachu olew mewn modd anghyfreithlon.

Gwelodd y wasg ddelweddau y mae llywodraeth Rwsia’n honni eu bod nhw’n profi bod olew’n cael ei gludo o ardaloedd yr eithafwyr Islamaidd yn Syria ac Irac i Dwrci.

Ond doedd ganddyn nhw ddim tystiolaeth o ran Erdogan a’i deulu yn y masnachu.

Mae Erdogan wedi gwadu’r honiadau, gan ddweud y byddai’n barod i ymddiswyddo pe bai tystiolaeth yn profi i’r gwrthwyneb.