Andrew R T Davies
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ysgrifennu at Lywodraeth y DU i fynegi eu gwrthwynebiad i doriadau pellach i gyllid S4C.

Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dweud wrth golwg360 nad yw’r blaid yn cytuno â phenderfyniad y Canghellor, George Osborne i docio £1.7 miliwn o gyllideb y sianel Gymraeg.

Suzy Davies, AC dros Dde Orllewin Cymru fydd yn ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb i “wneud yn glir nad ydym yn cytuno”.

Ac mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Andrew R T Davies am gyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol er mwyn “gweithio’n rhagweithiol ac adeiladol” gyda Llywodraeth San Steffan er mwyn dod o hyd i ateb  arall.

“Rydym yn meddwl ei fod (y penderfyniad i gwtogi cyllid S4C) yn ddiangen ac yn annheg,” meddai’r llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

Ac yn nadl y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd heddiw, sy’n ystyried adolygiad gwariant yr hydref, bydd aelodau’r blaid yn pleidleisio o blaid diwygiad Aled Roberts AC sy’n nodi bod y Senedd yn “gresynu at y toriad o £1.7 miliwn yng nghyllid S4C, er gwaethaf ymrwymiad y Ceidwadwyr Cymreig yn eu maniffesto i ‘ddiogelu annibyniaeth ariannol a golygyddol S4C.”

Guto Bebb: Tro pedol yn bosib

Ac mae Aelod Seneddol Ceidwadol yng Nghymru hefyd wedi dweud yn gyhoeddus bod y penderfyniad yn ‘gamgymeriad’ gan ddweud hefyd bod tro pedol ar y mater yn bosib.

Dywedodd Guto Bebb AS dros Aberconwy wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf ei fod “methu dirnad” y penderfyniad a’i fod yn “groes i be oeddwn i wedi cael fy arwain i’w ddisgwyl”.

“Mae’r toriad yn gamgymeriad ac yn gam gwag a bydd o’n gwneud dim lles i’r blaid yng Nghymru,” meddai.

Gostyngiad o 26% i S4C

Fe gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref George Osborne, y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.

Mae gwrthwynebiad chwyrn wedi bod yn sgil y penderfyniad o bob cwr o’r sbectrwm gwleidyddol yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd hefyd.

Mae golwg360 wedi gofyn i Swyddfa Cymru am ymateb.