Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio pobol i baratoi am fwy o lifogydd ar draws y rhan fwyaf o Gymru wrth i law trwm ddisgyn dros y wlad dros y 24 awr nesaf.

Bydd y glaw trwm yn lledaenu o’r gorllewin rhwng canol dydd heddiw a nos fory a gallai  llawer o afonydd ledled Cymru orlifo’u glannau.

Mae pryder hefyd y bydd dail mewn gwteri yn achosi llifogydd ar y ffyrdd ac mae pobol yn cael eu cynghori i ganiatau amser ychwanegol i deithio gan y gallai amodau gyrru fod yn anodd.

“Rydym yn gofyn i bobol gymryd gofal ac edrych ar ein rhybuddion llifogydd yn gyson, sy’n cael eu diweddaru bob 15 munud ar y map rhybuddio am lifogydd ar ein gwefan,” meddai Mike Thompson, Rheolwr Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Gyda rhagor o dywydd gwlyb ar y ffordd, byddai’n ddoeth i edrych ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol.

“Os ydych am gael gwybod beth yw’r perygl o gael llifogydd yn eich ardal, neu os ydych am gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth Rhybudd Llifogydd am ddim, ewch i’n gwefan neu ffoniwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188,” meddai.

Mae gwybodaeth ar gael ar gyfrif Twitter Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd @natreswales.

“Cadwch yn ddiogel ar y ffyrdd”

Mae Heddlu Dyfed Powys hefyd wedi cyhoeddi datganiad yn rhybuddio pobol o’r peryglon ar y ffyrdd yn sgil y glaw trwm.

“Rydym yn galw ar bobol i fod yn wyliadwrus a chymryd camau cyfrifol i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel ar y ffyrdd,” meddai’r Prif Uwch-Arolygydd, Aled Davies.

“Mae rhannau o’r ffyrdd ledled ardal yr heddlu eisoes naill ai dan ddŵr neu’n wlyb iawn, gan wneud amodau gyrru’n beryglus.”

Galwodd hefyd ar i fodurwyr ystyried arwyddion sy’n nodi bod ffordd wedi cau, gan fod enghreifftiau wedi bod yr wythnos hon, lle mae’r gwasanaethau argyfwng wedi bod yn brysur yn delio ag achosion o bobol yn cael eu hunain mewn trafferth ar ôl anwybyddu’r arwyddion hyn.

“Cadwch eich hunain a’r gwasanaethau argyfwng yn ddiogel drwy ddilyn yr arwyddion ffordd a gwrando ar gyngor gan asiantaethau.”

Gellir cael rhagor o wybodaeth a chyngor drwy ddilyn Heddlu Dyfed Powys ar Twitter @DyfedPowys, neu’r wefan Traffig Cymru.