Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi atal ymgais ddiweddaraf senedd Catalwnia i geisio am annibyniaeth.
Yn gynharach yn y mis roedd grwpiau o blaid annibyniaeth wedi ennill mwyafrif yn etholiadau seneddol Catalwnia, ac wedi ceisio ail ddechrau’r broses o wahanu oddi wrth Sbaen.
Ond mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen nawr wedi datgan bod eu cam diweddaraf yn annilys, gan ochri gyda llywodraeth Sbaen.
Roedd yn un o’r penderfyniadau cyflymaf y mae’r llys erioed wedi’i wneud, yn ôl papur newydd El Pais, a hynny oherwydd bod pennaeth y llys eisiau delio â’r mater cyn dechrau ymgyrch etholiad cyffredinol Sbaen, fydd yn cael ei chynnal ar 20 Rhagfyr.
Her gan Sbaen
Roedd datganiad y grwpiau o blaid annibyniaeth yn gynharach yn y mis yn galw am anwybyddu penderfyniadau sefydliadau Sbaen a dilyn deddfau oedd wedi cael eu gosod gan senedd Catalwnia.
Ond fe gafodd y datganiad hwnnw ei herio gan lywodraeth Sbaen ym Madrid, ac mae’r llys cyfansoddiadol bellach wedi cefnogi’r apêl hwnnw.
Cafodd pleidlais anffurfiol ei chynnal yn 2014 gyda dros 80% o bobl yn cefnogi’r ymgyrch o blaid annibyniaeth, ac roedd etholiadau diweddaraf senedd Catalwnia yn cael eu gweld fel cyfle arall i weld pa gyfeiriad roedd y gwynt yn chwythu.
Ond mae Prif Weinidog Sbaen eisoes wedi herio arlywydd Catalwnia Artur Mas yn gyfreithiol dros y bleidlais anffurfiol llynedd.
Mae llywodraeth Sbaen yn chwyrn yn erbyn y syniad o annibyniaeth i’w rhanbarthau, ac wedi atal camau cyfansoddiadol i’r cyfeiriad hwnnw sawl tro yn y gorffennol.