Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw dynes fu farw yn Afon Wysg yn dilyn glaw trwm nos Lun.

Cafwyd hyd i gorff Anita Mary Parry, 50, o ardal Aberhonddu yn yr afon bnawn dydd Mawrth.

Fe fu’r gwasanaethau brys yn chwilio am y fam i ddau o blant yn dilyn adroddiadau yn hwyr nos Lun ei bod ar goll.

Yn fuan wedyn cafwyd adroddiadau bod dynes wedi cael ei gweld yn yr afon.

Mae ei theulu wedi cael eu hysbysu.