Jeremy Corbyn
Mae Aelod Seneddol Llafur wedi galw ar arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn i wahardd unrhyw aelod sy’n bygwth neu sarhau aelodau seneddol ar drothwy’r bleidlais ar gyrchoedd bomio yn Syria.
Dywedodd John Mann fod nifer o Aelodau Seneddol wedi cael eu bwlio ar wefannau cymdeithasol ac mewn e-byst, gyda nifer o aelodau’r blaid yn dweud y byddan nhw’n sicrhau nad yw aelodau sy’n pleidleisio o blaid y cyrchoedd bomio yn cael eu dewis fel ymgeiswyr seneddol yn y dyfodol.
Cyhoeddodd y cyn-weinidog Llafur, Diana Johnson e-bost a gafodd ei hanfon at ASau Llafur, yn eu rhybuddio y byddan nhw’n wynebu pleidlais o ddiffyg hyder pe baen nhw’n pleidleisio o blaid bomio Syria.
‘Golchi’r gwaed oddi ar eu dwylo’
Yn yr e-bost, dywedodd yr aelod Llafur y byddai aelodau seneddol yn “ceisio golchi’r gwaed oddi ar eu dwylo” ac y byddai’r bomiau’n lladd dinasyddion diniwed.
Wrth ymateb i’r neges, dywedodd Johnson, aelod seneddol Gogledd Hull: “Mae’n bwysig cofio bod gan ASau Llafur bleidlais rydd ac mae gofyn iddyn nhw wneud beth maen nhw’n credu sy’n gywir ddydd Mercher.”
Roedd un neges at Liz Kendall yn galw am ddarganfod “ateb terfynol” i ymdrin ag aelodau seneddol sy’n cefnogi Llywodraeth Prydain yn y bleidlais.
Dywedodd Kendall y byddai’n “dewis yn ôl fy nghydwybod a’r dystiolaeth – ac nid oherwydd pwysau”.
Mae pwysau ar Jeremy Corbyn i ddisgyblu unrhyw aelod o’r blaid sy’n cael ei ddatgelu fel awdur y negeseuon.
Ond mae Corbyn yntau wedi cael ei gyhuddo o roi pwysau ar ASau ei blaid i’w gefnogi wrth iddo wrthwynebu’r cyrchoedd bomio arfaethedig yn Syria.