John Kerry
Mae aelodau Nato yn ‘barod’ i gynyddu eu hymdrechion milwrol yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS), yn ôl Ysgrifennydd Gwladol America.
Fe ddywedodd John Kerry ei fod wedi gofyn i 27 aelod arall o’r gynghrair i wneud mwy i frwydro yn erbyn cadarnleoedd y grŵp o frawychwyr yn Irac a Syria ac atal ei rwydweithiau rhyngwladol.
Dywedodd fod sawl gwlad am ymuno â’r frwydr neu y byddan nhw’n gwneud hynny cyn hir.
Fe wnaeth ei sylwadau ym mhencadlys Nato ym Mrwsel, ond doedd e heb amlinellu unrhyw ymrwymiadau penodol gan wledydd eraill.
Mae’r Almaen eisoes wedi cymeradwyo anfon milwyr ac offer milwrol i’r Dwyrain Canol er mwyn ‘cefnogi’ Ffrainc yn eu hymosodiadau, er na fydd y milwyr yno yn ymladd yn erbyn IS yn uniongyrchol.
Pleidlais San Steffan
Ac mae disgwyl pleidlais gan Aelodau Seneddol ym Mhrydain yn ddiweddarach heddiw ar ehangu ymosodiadau o’r awyr yn erbyn IS yn Syria.
Dywedodd John Kerry y byddai gwledydd eraill yn cyflwyno cynlluniau newydd ar ôl cael trafodaethau pellach yn eu gwledydd eu hunain.