Cafodd strydoedd eu cau o gwmpas Broadcasting House y BBC yn Llundain prynhawn dydd Mawrth wedi ofnau bod ffrwydron wedi cael eu darganfod gerllaw.
Dywedodd llygad dystion bod staff ac ymwelwyr wedi rhedeg allan o’r adeilad mewn ofn yn ystod y digwyddiad.
Rhuthrodd heddlu i gau’r strydoedd cyfagos ar ôl adroddiadau bod cerbyd amheus wedi cael ei ganfod ger pencadlys y gorfforaeth yn Portland Place, Marylebone.
Dim perygl
Roedd adroddiadau lu ar wefannau cymdeithasol bod pobl yn ceisio dianc o’r adeilad a bod “heddlu ym mhobman” wrth i bryderon gael eu codi am tua 2.45yp heddiw.
Ond roedd llawer o staff eraill oedd yn gweithio yn yr adeilad wedi parhau i weithio yn ôl yr arfer, er eu bod nhw’n ymwybodol o’r panig y tu allan.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Scotland Yard yn ddiweddarach nad oedd yr heddlu’n credu bod bygythiad go iawn wedi bod a bod ffyrdd nawr yn cael eu hailagor, ond chafwyd dim sylw pellach.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y BBC bod yr adeilad wedi cael ei gwagio’n rhannol yn ystod y digwyddiad, ond nad oedd hynny wedi effeithio ar raglenni’r gorfforaeth.