Mae’r actor o Glasgow, James McAvoy yn disgwyl i’r Alban bleidleisio o blaid annibyniaeth o fewn degawd.
Dywedodd seren y ffilmiau X-Men ei fod yn disgwyl i’w famwlad gael yr hyn y mae’n cyfeirio ato fel ‘conscious uncoupling’ gyda gweddill y DU.
Cafodd y term ei fathu gan Gwyneth Paltrow pan wahanodd hi a chanwr Coldplay Chris Martin.
Wrth drafod annibyniaeth, gwrthododd McAvoy ddatgan a oedd e wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth yn y refferendwm.
Dywedodd McAvoy wrth gylchgrawn Culture y Sunday Times: “Pan gewn ni hi, mi fydd hi – fel y dywedodd Gwyneth Paltrow ryw dro – yn ‘conscious uncoupling’, yn llanast o ysgariad.
“Roedd llawer o bobol oedd ei heisiau hi’r tro diwethaf wedi pleidleisio Na oherwydd nad oedden nhw’n hoffi Alex Salmond ac yn synhwyro bod elfen fyfïol ar waith, yn hytrach nag arweinydd cydwybodol.”
Ychwanegodd y byddai annibyniaeth o fewn y degawd yn “ysgariad llai niweidiol” na’r hyn a fyddai wedi digwydd ym mis Medi 2014.
Pleidleisiodd 55.3% o bobol bryd hynny o blaid aros yn rhan o’r DU.