Grant Shapps (llun swyddogol)
Mae un o weinidogion y llywodraeth wedi ymddiswyddo ar sail honiadau iddo fethu â gweithredu ar gwynion o fwlio yn adran ieuenctid y Torïaid.
Dywed Grant Shapps ei fod yn derbyn cyfrifoldeb am ymddygiad y swyddog Mark Clarke, sy’n cael ei gyhuddo o fwlio dyn ifanc a laddodd ei hun.
Cafwyd hyd i Elliott Johnson, 21 oed, yn farw ar reilffordd ym mis Medi, ac mae’n ymddangos iddo adael nodyn yn beio Mark Clarke.
Roedd tad Elliott Johnson wedi galw ar Grant Shapps, cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol a’r Arglwydd Feldman, yr arweinydd presennol i ymddiswyddo.
Mewn llythyr at y Prif Weinidog David Cameron, dywed Grant Shapps:
“Er na all y blaid na finnau gael hyd i unrhyw gofnod o honiadau ysgrifenedig o fwlio, camdriniaeth rhywiol na blacmel a wnaed yn swyddfa’r cadeirydd cyn yr etholiad, alla i ond teimlo y dylid bod wedi rhoi mwy o sylw i’r rheini a oedd yn mynegi pryderon.
“Yn y pen draw, fe wnes i arwyddo’r llythyr yn penodi Mark Clarke yn gyfarwyddwr yr adran, a dw i’n teimlo bod yn rhaid imi gymryd cyfrifoldeb.”