Jeremy Corbyn (llun: PA)
Dwysáu mae’r ffraeo o fewn y Blaid Lafur ynghylch bomio Syria ar ôl i’r arweinydd Jeremy Corbyn anfon neges at holl aelodau’r blaid i holi eu barn.
Mae’n cael ei gyhuddo o ddefnyddio’i gefnogaeth ar lawr gwlad i geisio gorfodi ei gabinet a’i Aelodau Seneddol i bleidleisio yn erbyn ymosodiadau o’r awyr ar safleoedd y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae’n bosibl y gallai’r Prif Weinidog David Cameron alw pleidlais ar y mater yn Nhŷ’r Cyffredin mor gynnar â dydd Mawrth os bydd yn hyderus y caiff gefnogaeth mwyafrif yr ASau.
Mae Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, eisoes wedi dweud ei fod o blaid pleidlais rydd fel y gallai ASau Llafur bleidleisio yn ôl eu cydwybod, ond mae’n ymddangos bod Jeremy Corbyn yn anfodlon ymrwymo i hyn.
Yn ei lythyr at aelodau cyffredin Llafur, dywed yn blaen nad yw’n credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud achos digon cryf dros ymosodiadau o’r awyr ar Syria.