Andy Burnham (Llun o'i wefan)
Fe fyddai toriadau pellach i niferoedd heddlu’n golygu na fedren nhw ddelio gydag effaith ymosodiad fel yr un ym Mharis, yn ôl llythyr y mae penaethiaid y gwasanaeth wedi ei anfon at yr Ysgrifennydd Cartref.
Yn ôl y llythyr, sydd wedi cael ei ollwng i’r cyfryngau, mae plismona cyffredin yn allweddol wrth geisio atal terfysgaeth.
Mae’r uwch swyddogion yn rhybuddio bod 40,000 o swyddi heddlu eisoes wedi eu colli ac fe fyddai colli rhagor yn ei gwneud hi’n anodd i ymateb yn gyflym i ddigwyddiad mawr.
Burnham yn rhybuddio hefyd
Mae’r llefarydd Llafur, Andy Burnham, hefyd wedi galw am atal toriadau pellach o fwy na 5% i gyllid yr heddlu gan ddweud y byddai hynny hefyd yn gwneud drwg i’w gallu i gasglu gwybodaeth gudd am frawychwyr.
Fe wrthododd llefarydd ar ran Cyngor Uwch Swyddogion yr Heddlu â rhoi sylw am y llythyr, ond roedd yn cydnabod eu bod wedi edrych eto ar eu gallu i ymateb i ymosodiad mawr mewn sawl lle a’u bod yn trafod gyda’r Llywodraeth am yr arian sydd ei angen i gwrdd â hynny.